Prydeindod

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Prydeindod neu Prydeinrwydd yw'r term a ddefnyddir am ideoleg wleidyddol sy'n pwysleisio tebygrwydd honedig yn niwylliant a gwerthoedd trigolion Prydain Fawr neu'r Deyrnas Unedig, yn hytrach na'r gwahaniaethau rhwng Saeson, Albanwyr a Chymry. Mae fel rheol yn gysylltiedig ag Unoliaetholdeb Brydeinig a gwrthwynebiad i genedlaetholdeb Albanaidd, Gymreig, Gwyddelig, a Seisnig.

Yn y cyfnod diweddar mae Prydeindod wedi ei bwysleisio gan Gordon Brown, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. Yn Ionawr 2006 rhoddodd araith i Gymdeithas y Ffabiaid yn galw am "Ddiwrnod Prydeindod" i ddod yn ŵyl flynyddol.

Awgrymwyd gan feirniaid Gordon Brown fod hyn yn ymateb i wrthwynebiad rhai Saeson i gael Albanwr yn Brif Weinidog. Beirniadwyd y syniad o Brydeindod gan genedlaetholwyr; er enghraifft yn 1966 cyhoeddodd J.R. Jones gyfrol Prydeindod yn ymosod ar yr ideoleg. Dywedodd Gwynfor Evans:

"Mae Prydeindod yn gyfystyr â Seisnigrwydd sy'n ymestyn y diwylliant Seisnig dros yr Albanwyr, y Cymry a'r Gwyddelod."
Prydeinig mewn unrhyw ystyr[1]
Gwlad / Grŵp Canran
Lloegr 48%
Gogledd Iwerddon 64%
Yr Alban 20%
Cymru 35%
Pobl Wyn 45%
Pobl heb fod yn wyn 57%

Yn ôl ymchwiliad yn 2001 (2006 i Ogledd Iwerddon), dim ond yng Ngogledd Iwerddon y mae mwyafrif o'r boblogaeth yn eu hystyried eu hunain yn Brydeinig mewn unrhyw ystyr. Yn y tair gwlad arall mae'r nifer sy'n eu hystyried eu hunain yn Brydeinwyr yn hytach na Saeson, Albanwyr neu Gymry wedi gostwng yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.

Mae pobl wyn yn llai tebyg i'w gweld eu hunain fel Prydeinwyr na lleiafrifoedd ethnig. Ymddengys fod hyn yn arbennig o wir yn Lloegr, gyda thuedd gryf i leiafrifoedd ethnig i'w gweld eu hunain fel Prydeinwyr yn hytrach na Saeson.

Prydeindod yng ngwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon[golygu]

Yr Alban[golygu]

Yn yr Alban dim ond 20% o'r boblogaeth sy'n eu hystyried eu hunain yn "Brydeinwyr". Dyma'r ffigwr isaf yn y DU. Mae hanes a daearyddiaeth wedi tueddu i atgyfnerthu arwahanrwydd yr Albanwyr. Yn y 18fed ganrif hyrwyddwyd y syniad gan rhai Saeson ac ambell Albanwr o newid enw'r Alban i 'Ogledd Prydain' (Northern Britain). Erbyn heddiw, gyda'r SNP yn rheoli'r wlad a'r posibilrwydd y bydd yr Alban yn datganu annibyniaeth, mae Prydeindod ar drai yno.

Cymru[golygu]

Mae'r sefyllfa yng Nghymru yn fwy cymhleth, am resymau hanesyddol a daearyddol. Cofnodir yn arolwg 2001 fod 35% o boblogaeth Cymru yn eu hystyried eu hunain yn "Brydeinwyr" o ryw fath. Ond nid yw hynny'n adlewyrchu'r sefyllfa ymhlith y Cymry eu hunain o reidrwydd. Mae tua 30% o boblogaeth Cymru heddiw yn bobl a aned y tu allan i Gymru ac mae'r mwyafrif ohonyn nhw'n Saeson.

Dylid gwahaniaethu yn ogystal rhwng y termau Brython a Prydeiniwr. Enw hynafol ar y Cymry yw Brython (gall fod yn air lluosog hefyd) ac fe'i defnyddwyd felly gan y Cymry am ganrifoedd, ond termau pur ddiweddar yw Prydeiniwr a Phrydeinig ac nid ydynt yn gyfystyr. Ceir lliaws o enghreifftiau hanesyddol o'r Saeson eu hunain yn cyfeirio at y Cymry fel y Britons (ond heb ddefnyddio'r term ar gyfer y Saeson) a'r iaith Gymraeg fel y British tongue. Dim ond gyda thwf grym Teyrnas Prydain Fawr a'r Ymerodraeth Brydeinig y dechreuodd hynny newid.

Gogledd Iwerddon[golygu]

Yng Ngogledd Iwerddon mae arolwg a wnaed yn 2006 (gweler uchod) yn dangos fod 64% o'r boblogaeth yn eu hystyried eu hunain yn "Brydeinwyr". Dyma'r ffigwr uchaf yn y DU. Yn ddaearyddol ac yn hanesyddol nid yw Gogledd Iwerddon yn rhan o Brydain, er ei bod yn y DU, ond mae mwyafrif y boblogaeth yn Unoliaethwyr ac mae'n debyg fod y canran yn adlewyrchu hynny: prin yw'r Catholigion a gweriniaethwyr yn y dalaith a fyddai'n ystyried eu galw eu hunain yn "Brydeinwyr" yn hytrach na Gwyddelod.

Lloegr[golygu]

Poster recriwtio o'r Rhyfel Byd 1af gyda John Bull

Peth cyffredin yn Lloegr hyd yn oed heddiw yw defnyddio'r termau "Prydeinig" a "Seisnig" gyda'i gilydd fel termau cyfystyr. Mae hyn yn deillio o gyfnod datblygiad yr Ymerodraeth Brydeinig. Cyn y 18fed ganrif prin iawn yw'r defnydd o'r term "Prydeinwyr" (yn yr ystyr ddiweddar) o gwbl (cf. Cymru uchod). Ond wrth i Brydeindod gyrraedd ei phenllanw yn oes Victoria ceir llu o enghreifftiau o ddefnyddio'r termau fel Prydeinig a Seisnig, Prydain a Lloegr, fel petaent yn gyfystyr. Dyma dwy enghraifft o blith llawer, gan yr hanesydd parchus R. C. Collingwood, yn ei lyfr ar y Brydain Rufeinig a fu'n llyfr safonol ar y cyfnod am flynyddoedd:

The student who approaches Roman Britain as merely an episode in English history cannot see this fact... England herself, at the beginning of English history, did not exist, even by the name of Britain.[2]

Ac eto, ar yr Ymerodraeth Brydeinig yn India:

If the English raj ceased, if the English troops left, if English traders were expelled, would English ideas go too? Is not the very idea of self-government, national liberty, an idea which India has learnt from her English rulers?.[3]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Colley, Linda, Britons : forging the nation, 1707-1837 (New Haven: Yale University Press, 1992) ISBN 0300057377
  • Hunter, Jerry, Soffestri'r Saeson (Caerdydd, 2000)
  • Jones, Dafydd Glyn, Agoriad yr Oes (Y Lolfa, 2001). ISBN 0-86243-603-6
  • Jones, J. R., Prydeindod (Llandybie : Llyfrau'r Dryw, 1966)
  • Osmond, John (gol.), Gordon Brown: Bard of Britishness, casgliad o ysgrifau (IWA, Caerdydd, 2006)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. National Statistics, Living in Britain 2001 (Households, Families and People: National Identity), 2001
  2. R. C. Collingwood, Roman Britain (Rhydychen, 1924), tud. 10.
  3. R. C. Collingwood, Roman Britain (Rhydychen, 1924), tud. 143.

Gweler hefyd[golygu]