J. R. Jones

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth J.R. Jones)
Neidio i: llywio, chwilio
Am sylfaenydd y Bedyddwyr Albanaidd yng Nghymru, gweler J. R. Jones, Ramoth.

Athronydd ac awdur Cymreig oedd John Robert Jones, sy'n fwy adnabyddus fel J. R. Jones (4 Medi 19113 Mehefin 1970).

Ganed J. R. Jones ym Mhwllheli, Gwynedd. Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio gyda dosbarth cyntaf mewn athroniaeth cyn gwneud M.A. yn Aberystwyth a D. Phil. yng Ngholeg Balliol, Rhydychen.

Dychwelodd i Aberystwyth fel darlithydd yn 1939, a bu yno hyd nes cael ei benodi'n Athro Athroniaeth ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe yn 1952, lle bu hyd ei farwolaeth. Roedd yn briod â Julia Roberts, ac roedd ganddynt un ferch fabwysiedig.

Roedd yn un o gefnogwyr cynharaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac ysgrifennodd nifer o lyfrau ar yr iaith gan gynnwys ei lyfr Prydeindod a oedd yn rhannol yn ymateb i syniadau newydd Owain Owain ar bwysigrwydd Y Fro Gymraeg. Ysgrifennodd hefyd ar grefydd. Dylanwadau eraill arno oedd: Paul Tillich, Simone Weil a Ludwig Wittgenstein.

Mae 'Wedi'r Storm' gan Gerallt Lloyd Owen, a gyhoeddwyd yn y gyfrol Cerddi'r Cywilydd, yn gerdd er cof am J. R. Jones.

Llyfryddiaeth [golygu]

Gwaith J. R. Jones [golygu]

  • Yr Argyfwng Gwacter Ystyr (Llyfrau’r Dryw, 1964)
  • Prydeindod (Llyfrau’r Dryw, 1966)
  • A Raid i’r Iaith ein Gwahanu? (Undeb Cymru Fydd, 1967)
  • Ac Onide (Llyfrau’r Dryw, 1970)
  • Gwaedd yng Nghymru (Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 1970)

Cyhoeddodd hefyd nifer fawr o ysgrifau mewn cyfnodolion megis Efrydiau Athronyddol, Y Traethodydd, Proceedings of the Aristotelian Society ac eraill.

Llyfrau amdano [golygu]