Gordon Brown

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gordon Brown AS
Gordon Brown

Cyfnod yn y swydd
27 Mehefin 2007 – 11 Mai 2010
Rhagflaenydd Tony Blair
Olynydd David Cameron

Canghellor y Trysorlys
Cyfnod yn y swydd
2 Mai 1997 – 27 Mehefin 2007
Rhagflaenydd Kenneth Clarke
Olynydd Alistair Darling

Geni 20 Chwefror 1951
Glasgow, Yr Alban, DU
Etholaeth Kirkcaldy a Cowdenbeath
Plaid wleidyddol Llafur
Priod Sarah Brown

Cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yw James Gordon Brown (ganwyd 20 Chwefror, 1951 yn Govan, Glasgow, yr Alban). Cymerodd y swydd ar 27 Mehefin, 2007, tridiau ar ôl dod yn arweinydd y Blaid Lafur. Yn gynt fe wasanaethodd fel Canghellor y Trysorlys dan Tony Blair o 1997 tan 2007, y cyfnod hwyaf i Ganghellor wasanaethu ers Nicholas Vansittart ar ddechrau'r 19eg ganrif. Mae'n aelod blaenllaw o Cyfeillion Llafur Israel.

Mae gan Brown PhD mewn hanes o Brifysgol Caeredin a threuliodd ei yrfa gynnar yn gweithio fel newyddiadurwr teledu.[1][2] Etholwyd yn Aelod Seneddol dros Ddwyrain Dunfermline yn 1983 ac yn AS dros Kirkcaldy a Cowdenbeath yn 2005.[3][4] Fel Prif Weinidog, mae Brown hefyd yn dal swyddi Prif Arglwydd y Trysorlys a Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil.

Nodwyd cangelloriaeth Brown gan ddiwygiadau arwyddocaol mewn polisi ariannol a chyllidol Prydain, yn cynnwys trosglwyddiad pwerau gosod cyfraddau llog i Fanc Lloegr, gan estyniad eang o rymoedd y Trysorlys fel bod yr adran yn ymdrin â nifer mwy o feysydd ym mholisi gwladol, ac gan amodau economaidd hynaws. Ei weithredoedd mwyaf dadleuol oedd diddymu cymorth Blaendreth Corfforaeth (ACT) yn ei gyllideb gyntaf – gweithred a gafodd ei beirniadu am ei heffaith ar gronfeydd pensiwn – [5] a dileu'r cyfradd treth 10c yn ei gyllideb derfynol yn 2007.[6]

Yn ystod ei amser fel Prif Weinidog mae Brown wedi wynebu ôl-effeithiau'r argyfwng economaidd a gwladoliad cysylltiedig Northern Rock, y ddadl dros y gyfradd treth 10c, cynnydd mewn prisiau olew a phetrol, a chwyddiant cynyddol. Mae Brown hefyd wedi dioddef o ganlyniad i ymchwiliadau i mewn i gyhuddiadau o roddion anweddus i'w blaid, brwydr wleidyddol ddrud dros gadw terfysgwyr honedig o dan glo am 42 niwrnod, a threchiadau sylweddol mewn is-etholiadau, megis Dwyrain Glasgow. Er i boblogrwydd Brown a'r Blaid Lafur gynyddu ar gychwyn ei brifweinidogaeth, mae'u safiadau mewn polau piniwm ers hynny wedi gostwng yn sylweddol.[7][8] Yn ystod haf 2008 bu sôn am her bosib i arweinyddiaeth Brown,[9][10][11][12] ond enciliodd fygythiad cystadleuaeth ym mis Hydref yn dilyn Cynhadledd y Blaid Lafur a gwaethygiad yr argyfwng economaidd.[13] Ymddiswyddodd fel Prif Weinidog ar 11 Mai, 2010. [14]

Cynnwys

[golygu] Cangelloriaeth

Nodir gwefan y Prif Weinidog tair camp o ddegawd Brown fel Canghellor y Trysorlys: llywyddu'r "cyfnod hwyaf o dwf a welodd y wlad erioed", gwneud Banc Lloegr yn annibynnol a chyflwyno cytundeb ar dlodi a newid hinsawdd yn 31ain Uwchgynhadledd yr G8 yn 2005.[15]

[golygu] Prifweinidogaeth

[golygu] Prydeindod

Ers rhai blynyddoedd mae Prydeindod wedi ei bwysleisio gan Gordon Brown, yn enwedig ers iddo ddod yn Brif Weinidog. Yn Ionawr 2006 rhoddodd araith i Gymdeithas y Ffabiaid yn galw am "Ddiwrnod Prydeinig" i ddod yn ŵyl flynyddol. Yn Ebrill yn yr un flwyddyn dywedodd ei fod eisiau gweld "baner (Jac yr Undeb) yn hedfan ym mhob gardd yn y wlad" ar y diwrnod hwnnw[16] Awgrymwyd gan feirniaid Gordon Brown fod hyn yn ymateb i wrthwynebiad rhai Saeson i gael Albanwr yn Brif Weinidog, ond mewn gwirionedd cafwyd sawl datganiad gan Brown yn pwysleisio Prydeindod cyn iddo gymryd yr awennau o ddwylo Blair yn 2007. Gweithiodd Brown yn frwd i sefydlu'r "Diwrnod y Lluoedd Arfog" newydd hefyd.[17] Bydd y 'diwrnod' hwnnw yn ymestyn dros benwythnos ac yn cynnwys gorymdeithiau milwrol, cyflwyniadau i ysgolion, a tattoos milwrol ar feysydd pêl-droed.

[golygu] Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Kearney, Martha (14 Mawrth, 2005). Brown seeks out 'British values'. BBC. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  2. (Saesneg) Gordon Brown timeline. BBC (15 Mehefin, 2004). Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  3. (Saesneg) Brown is UK's new prime minister. BBC (27 Mehefin, 2007). Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  4. (Saesneg) Gordon Brown. BBC (19 Tachwedd, 2007). Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  5. (Saesneg) Stewart, Heather (22 Gorffennaf, 2002). Pension blame falls on Brown. The Guardian. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  6. (Saesneg) Dawar, Anil (21 Ebrill, 2008). Q&A: 10p tax rate cut. The Guardian. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  7. (Saesneg) Prince, Rosa (13 Awst, 2007). Gordon Brown's huge poll lead. Daily Mirror. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  8. (Saesneg) Majendie, Paul (13 Ebrill, 2008). Brown in record poll slide. Reuters. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  9. (Saesneg) Current Voting Intention. UK Polling Report. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  10. (Saesneg) Porter, Andrew (27 Mehefin, 2008). Gordon Brown is 'electoral liability' says anniversary poll. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  11. (Saesneg) Sparrow, Andrew & Mulholland, Hélène (28 Gorffennaf, 2008). Brown hit by call for resignation and bad poll ratings. The Guardian. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  12. (Saesneg) Young, Vicky (28 Gorffennaf, 2008). Is Brown seriously at risk of axe?. BBC. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  13. (Saesneg) Brown critic 'ends hostilities'. BBC (7 Hydref, 2008). Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  14. Gordon Brown resigns as UK prime minister Gwefan newyddion y BBC. 11-05-2010
  15.  Bywgraffiad Y Gwir Anrhydeddus Gordon Brown, AS. Gwefan swyddogol 10 Stryd Downing. Adalwyd ar 30 Ionawr, 2008.
  16. Daily Telegraph "Fly the Flag in every garden" 14/04/06.
  17. The Daily Telegraph, 13.04.2008 "Victory for Armed Forces Day campaign". Adalwyd ar 16 Ebrill 2008

[golygu] Darllen pellach

  • Gordon Brown: Bard of Britishness, casgliad o ysgrifau golygwyd gan John Osmond, IWA, Caerdydd, 2006.

[golygu] Cysylltiadau allanol

Comin Wicifryngau
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wikiquote
Mae gan Wikiquote gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Dwyrain Dunfermline
19832005
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Kirkcaldy a Cowdenbeath
2005 – presennol
Olynydd:
deiliad
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Kenneth Clarke
Canghellor y Trysorlys
2 Mai 199727 Mehefin 2007
Olynydd:
Alistair Darling
Rhagflaenydd:
Tony Blair
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
27 Mehefin 200711 Mai 2010
Olynydd:
David Cameron
Swyddi gwleidyddol pleidol
Rhagflaenydd:
Tony Blair
Arweinydd y Blaid Lafur
24 Mehefin 200711 Mai 2010
Olynydd:
Harriet Harman
Arweinwyr y Blaid Lafur

Keir HardieArthur HendersonGeorge Nicoll BarnesJames Ramsay MacDonaldArthur HendersonWilliam AdamsonJohn Robert ClynesJames Ramsay MacDonaldArthur HendersonGeorge LansburyClement AttleeHugh GaitskellGeorge BrownHarold WilsonJames CallaghanMichael FootNeil KinnockJohn SmithMargaret BeckettTony BlairGordon BrownHarriet HarmanEd Miliband

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill