Robert Peel
| Robert Peel | |
|
|
|
| Cyfnod yn y swydd 10 Rhagfyr 1834 – 8 Ebrill 1835 |
|
| Rhagflaenydd | Arthur Wellesley, Dug 1af Wellington |
|---|---|
| Olynydd | William Lamb, 2ail Is-Iarll Melbourne |
| Cyfnod yn y swydd 30 Awst 1841 – 29 Mehefin 1846 |
|
| Rhagflaenydd | William Lamb, 2ail Is-Iarll Melbourne |
| Olynydd | Arglwydd John Russell |
|
|
|
| Geni | 5 Chwefror 1788 Bury, Swydd Gaerhirfryn |
| Marw | 2 Gorffennaf 1850 San Steffan, Llundain |
| Plaid wleidyddol | Ceidwadol |
Sylfaenydd y Blaid Geidwadol fodern oedd Syr Robert Peel (5 Chwefror 1788 – 2 Gorffennaf 1850), Prif Weinidog y Deyrnas Unedig rhwng Rhagfyr 1834, ac Ebrill 1835 a rhwng Awst 1841, a Mehefin 1846.
Fel Ysgrifennydd Cartref creodd Heddlu Metropolitanaidd Llundain yn 1829 (heddlu ffurfiol cyntaf Prydain). Gyda Dug Wellington diddymodd y Deddfau Penyd gan Ryddfreinio Catholigion yn 1829. Ail-greodd y blaid Dorïaid (a elwir yn y Blaid Geidwadol yn gynyddol) yn dilyn trechiad etholiadol 1832, gan Ddiddymu'r Deddfau Ŷd yn 1845 yn ystod ei ail-weinidogaeth. Trechwyd gan ei blaid ei hun dros y mater, gan arwain i'w ymddiswyddiad yn 1846 a rhwyg yn y blaid Geidwadol. Cymaint oedd ei ddylanwad, yn aml elwir y cyfnod rhwng Deddf Diwygio 1832 a'i ymddiswyddiad fel Prif Weinidog yn 1846 yn Oes Peel, er iddo fod yn Brif Weinidog am ond pum mlynedd yn gyfan gwbl.[1]
Cefndir a blynyddoedd cynnar [golygu]
Ganwyd yn Chamber Hall, Bury, Swydd Gaerhirfryn, ar y 3ydd o Chwefror 1788. Roedd yn drydydd mab i'w dad, hefyd o'r enw Robert Peel, AS Torïaidd a oedd yn gyfrifol am Deddf Ffactori yn 1802. Diwydianwyr oedd ei deulu, a chafodd ei ddisgrifio gyda chryn snobyddiaeth gan Dug Wellington fel dyn o "low birth and vulgar manners."
I geisio gwrthdroi'r fath syniadau, megis nifer o blant nouveau riche eraill oedd yn ceisio esgyn ym myd y tirfeddianwyr traddodiadol, anfonwyd fab i ysgol fonedd Harrow yn 1800. Dechreuodd ei astudiaethau yn Christ Church, Rhydychen yn 1805 lle daeth yn fyfyriwr galluog. Erbyn 1809 - ar argymhellant Arthur Wellesley, yr un dyn a ddaeth i fod y Dug Wellington a ddisgrifiodd dras Peel mor snoblyd - roedd yn aelod seneddol â sedd Gwyddelig Ddinas Cashel, bwrdeistref ag ond dau ddeg pedwar o bleidleisiwr. Dyma oedd dechreuad dau thema pwysig ym mywyd Peel - ei bartneriaeth â'r Dug Wellington a chysylltiad ei yrfa wleidyddol i Iwerddon.
Gyrfa wleidyddol [golygu]
Nid oedd pleidiau gwleidyddol ffurfiol i'w cael ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif, ond roedd dwy brif garfan yn y Senedd, sef y Chwigiaid a'r Torïaid. Er bod y ddwy garfan yn geidwadol iawn wrth safonau heddiw, roedd y Chwigiaid fel arfer yn fwy cefnogol i newid. Roedd yn Torïaid yn canolbwyntio'n draddodiadol ar amddiffyn Eglwys Loegr rhag Catholigiaeth ac Anghydffurfiaeth, ac ar amddiffyn buddiannau tirfeddianwyr cefn gwlad rhag masnachwyr y trefi. Credodd Robert Peel bod rhaid i hyn newid er mwyn i Dorïaeth oroesi.
Yn 1829, fe gafodd ei wrthdrawiad cyhoeddus cyntaf gyda'i gyd-Dorïaid - arwydd o gwrs dyfodol ei yrfa. Yn y flwyddyn honno, Peel a lywiodd y Mesur Rhyddfreinio Catholigion trwy'r Senedd, gan ganiatáu i Gatholigion ddod yn Aelodau Seneddol am y tro cyntaf. Roedd llawer o'i gyd-Dorïaid yn gweld hyn yn frad ac yn ergyd i oruchfiaeth Eglwys Loegr. Roedd rhai yn cyhuddo Peel o fradychu ei egwyddorion personol trwy gyflwyno'r Mesur, gan ei fod wedi'i wrthwynebu am ugain mlynedd. Yn wir, cymaint oedd ei ei wrth-Gatholigaeth ar un adeg nes iddo ennill y llysenw "Organge Peel" (cyfeiriad at yr Urdd Oren Protestanaidd). Ond roedd cefnogaeth fawr i'r Mesur yn Iwerddon (rhan o'r Deyrnas Unedig ar y pryd) lle roedd 80% o'r boblogaeth yn Gatholigion.
Trwy Faniffesto Tamworth yn 1834, fe osododd yn ffurfiol seiliau ei Geidwadaeth newydd, a fyddai'n cydnabod buddiannau llawer ehangach na'r hen Dorïaeth. Yn y ddogfen hon, fe dderbynniodd Ddeddf Ddiwygio 1832 - y Great Reform Act - y ddeddf a roddodd y bleidlais i ddosbarth canol y trefi. Newid mawr iawn oedd hwn o bolisi blaenorol y Torïaid, er bod Peel yn credu nad oedd dim angen estyn y bleidlais ymhellach, ac roedd e'n hollol wrthwynebus i ddemocratiaeth.
Dywedodd hefyd ym Maniffesto Tamworth ei fod am gytbwyso buddiannau amaeth, masnach a diwydiant, newid mawr arall o hen bwyslais y Torïaid ar y landed interest.
Ymhlith ei waith pwysicaf fel Prif Weinidog roedd deddf yn 1842 i wahardd menywod a phlant rhag gweithio dan ddaear yn y pyllau, a deddf yn 1844 yn lleihau oriau gwaith gweithwyr y ffatrïoedd. At hynny, fe dynnodd tua chant o droseddau oddi ar y rhestr o bethau y gallai rhywun gael ei grogi amdanynt - cyn hynny roedd smalio bod yn un o Bensiynwyr Chelsea yn gallu arwain at y gosb eithaf.
Cadarnhaodd Peel yn yn 1846 na fyddai'r Geidwadaeth newydd yn was bach i'r tirfeddianwyr pan ddileuodd y Deddfau Ŷd. Roedd y deddfau hyn yn symbol o rym tirfeddianwyr cefn gwlad, gan warantu pris uchel am ŷd, ac arwain felly, yn ôl rhai, at fara drud i bobl y trefi.
Mae hefyd yn nodedig am greu Heddlu Llundain - y Metropolitan Police - yn 1829, yr heddlu ffurfiol cyntaf ym Mhrydain. Roedd y plismyn cyntaf weithiau'n cael eu galw'n Peelers neu Bobbies ar ei ôl e.
Cyfeiriadau [golygu]
| Arweinwyr y Blaid Geidwadol |
|---|
|
Arthur Wellesley • Edward Smith-Stanley • James Harris • Hugh Cairns • Charles Gordon-Lennox • Benjamin Disraeli • Robert Gascoyne-Cecil • Spencer Cavendish • Henry Petty-FitzMaurice • George Curzon Robert Peel • Yr Arglwydd George Bentinck • Charles Manners • Benjamin Disraeli (gyda Charles Manners a John Charles Herries) • Benjamin Disraeli • Stafford Northcote • Michael Hicks Beach • Yr Arglwydd Randolph Churchill • William Henry Smith • Arthur Balfour • Andrew Bonar Law • Austen Chamberlain Andrew Bonar Law • Stanley Baldwin • Neville Chamberlain • Winston Churchill • Anthony Eden • Harold Macmillan • Alec Douglas-Home • Edward Heath • Margaret Thatcher • John Major • William Hague • Iain Duncan Smith • Michael Howard • David Cameron |