David Lloyd George
Oddi ar Wicipedia
| David Lloyd George | |
|
|
|
| Cyfnod yn y swydd 7 Rhagfyr 1916 – 22 Hydref 1922 |
|
| Rhagflaenydd | Herbert Asquith |
|---|---|
| Olynydd | Andrew Bonar Law |
|
Canghellor y Trysorlys
|
|
| Cyfnod yn y swydd 12 Ebrill 1908 – 25 Mai 1915 |
|
| Rhagflaenydd | Herbert Asquith |
| Olynydd | Herbert Asquith |
|
|
|
| Geni | 17 Ionawr 1863 Manceinion, Lloegr |
| Marw | 26 Mawrth 1945 Llanystumdwy, Cymru |
| Etholaeth | Bwrdeistrefi Caernarfon |
| Plaid wleidyddol | Rhyddfrydol |
Roedd David Lloyd George, Iarll 1af Lloyd George o Ddwyfor (17 Ionawr 1863 – 26 Mawrth 1945), a adnabyddid fel "y Dewin Cymreig", yn wleidydd Cymreig ac yn Brif Weinidog ar y Deyrnas Unedig rhwng Rhagfyr 1916 a Hydref 1922. Fe oedd prif weinidog Rhyddfrydol olaf y DU. Ym mlwyddyn olaf ei oes cafodd ei ddyrchafu i fod yn iarll gan y brenin Siôr VI.
Ym Manceinion, Lloegr, y cafodd ei eni. Treuliodd ei blentyndod ym mhentref Llanystumdwy, Eifionydd, o 1864 hyd 1880, lle cafodd ei fagu ar aelwyd Gymraeg gan ei fam weddw ac ewythr. Daeth yn gyfreithiwr gyda phractis yn Nghricieth erbyn 1885.
Cafodd ei ethol i gynrychioli Caernarfon yn is-etholaeth 1890. Roedd eisoes yn adnabyddus am iddo leisio achosion radicalaidd mor huodl. Yn yr 1890au, gyda mudiad gwladgarol Cymru Fydd ar ei anterth, defnyddiodd ei safle fel AS i ddadlau'n frwd yn Senedd San Steffan dros achosion fel Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru a hunanlywodraeth ("Home Rule" neu "Ymraeolaeth") i Gymru, yr Alban ac Iwerddon. Ond daeth trai ar ffawd Cymru Fydd a throes Lloyd George fwyfwy at wleidyddiaeth Brydeinig gan godi yn rhengoedd y Blaid Ryddfrydol. Gwrthwynebodd y rhyfel gwladychol yn Ne Affrica a adnabyddir fel Rhyfel y Boer ac am gyfnod bu'n amhoblogaidd yn Lloegr ond ni chollodd ei gefnogaeth frwd yng Nghymru, yn enwedig am iddo aros yn gefnogol i Ddatgysylltu'r Eglwys.
Ym 1905 cafodd ei benodi yn Llywydd y Bwrdd Masnach a daeth yn Ganghellor y Trysorlys yn 1908. Cyflwynodd bensiwn i'r henoed ac yswiriant iechyd cenedlaethol.
Pan gyhoeddwyd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 petrusodd Lloyd George cyn ei gefnogi, ond unwaith iddo bendrfynu ei fod yn rhyfel angenrheidiol bu'n gefnogwr brwd: mae rhai haneswyr yn gweld hyn fel y cyfnod y bradychodd Lloyd George ei egwyddorion trwy gefnogi rhyfel imperialaidd a rhoi pellter mawr rhyngddo a'r syniad o gael hunanlywodraeth i Gymru. Bu'n Weinidog dros Arfau o 1915 hyd 1916 ac yn Rhagfyr 1916 daeth yn Brif Weinidog gyda phwerau eang iawn am ei fod yn adeg rhyfel.
Ar ôl y rhyfel bu gan Lloyd George ran fawr yn y Trafodaethau Heddwch 1919 (gweler Cytundeb Versailles). Roedd ei blaid wedi curo'r Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol 1918 ac roedd yn cael ei glodfori fel "Y Dewin Cymreig" a'r "Dyn a enillodd y Rhyfel Mawr". Yn y 1920au bu ei bolisïau yn achos pryder i'w gefnogwyr traddodiadol; cofir hyd heddiw am ei ddefnydd o'r "Black and Tans" yn Iwerddon ac yn y Dwyrain Canol mae llawer yn ei feio am sefyllfa'r Palesteiniaid heddiw.
[golygu] Ffilm a llyfrau
- The Life Story of David Lloyd George (ffilm, 1918)
[golygu] Dolenni allanol
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Edmund Swetenham |
Aelod Seneddol dros Fwrdeistrefi Caernarfon 1890 – 1945 |
Olynydd: Seaborne Davies |
| Rhagflaenydd: T. P. O'Connor |
Tad y Tŷ 1929 – 1945 |
Olynydd: Edward Turnour |
| Swyddi gwleidyddol | ||
| Rhagflaenydd: Herbert Asquith |
Canghellor y Trysorlys 12 Ebrill 1908 – 25 Mai 1915 |
Olynydd: Herbert Asquith |
| Rhagflaenydd: Herbert Kitchener |
Ysgrifennydd Gwladol Rhyfel 6 Mehefin 1916 – 5 Rhagfyr 1916 |
Olynydd: Edward Stanley |
| Rhagflaenydd: Herbert Asquith |
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig 7 Rhagfyr 1916 – 22 Hydref 1922 |
Olynydd: Andrew Bonar Law |
| Swyddi gwleidyddol pleidol | ||
| Rhagflaenydd: Herbert Asquith |
Arweinwr y Blaid Rhyddfrydol 1926 – 1931 |
Olynydd: Herbert Samuel |