Arweinydd yr Wrthblaid (DU)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwleiddydd sy'n arwain yr Wrthblaid Swyddogol (Gwrthblaid Mwyaf Teyrngar Ei Mawrhydi) yn y Deyrnas Unedig yw Arweinydd Gwrthblaid Mwyaf Teyrngar Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig (a adnabyddir yn gyffredin fel Arweinydd yr Wrthblaid yn Nhŷ'r Cyffredin). Mae hefyd Arweinydd yr Wrthblaid yn Nhŷ'r Arglwyddi. Ar un adeg roedd arweinwyr gwrthblaid yn y ddau Dŷ â statws cyfartal, os nad oedd un yn Brif Weinidog diweddar yn y blaid a ffurfiodd yr Wrthblaid Swyddogol. Ond, ers cychwyn yr 20fed ganrif, does dim dadl wedi bod mai'r arweinydd yn Nhŷ'r Cyffredin yw'r arweinydd di-gyffelyb.

Fel arfer, Arweinydd yr Wrthblaid yw arweinydd y blaid fwyaf sydd ddim yn llywodraethu, sef y baid ail fwyaf yn Nhŷ'r Cyffredin. Cysidrir hwy yn Brif Weinidog amgen, ac maent yn aelod o'r Cyfrin Gyngor.

Arweinydd yr Wrthblaid presennol yw David Cameron, arweinydd y Blaid Geidwadol.

Arweinwyr yr Wrthblaid[golygu]

Mae'r tabl isod yn rhestru'r bobl a oedd yn, neu a weithredodd fel, Arweinwyr yr Wrthblaid yn y ddwy dŷ seneddol ers 1807.

Roedd arweinwyr y ddwy dŷ o statws cyfartal hyd 1922, os nag y bu un yn Brif Weinidog yn ddiweddar. Cysidrwyd gyn-Brif Weinidogion i fod yn arweinwyr cyffredinol ar gyfer yr wrthblaid. O 1922 ymlaen, cysidrwyd mai Arweinydd y blaid yn Nhŷ'r Cyffredin oedd arweinydd cyffredinol yr wrthblaid. Dengys enau'r arweinwyr cyffredinol mewn print trwm. Dengys enwau'r arweinwyr gweithredol mewn italig, os na ddaeth yr arweinydd gweithredol yn arweinydd llawn yn ddiweddarach yn ystod cyfnod di-dor fel arweinydd.

Oherwydd darniad y ddau brif blaid gwleidyddol rhwng 1827 ac 1830, mae enwau'r arweinwyr a gynnigir ar gyfer y prif gwrthblaid yn rai dros dro.

Mae + wedi enw, yn dynodi y bu faw'r arweinydd yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

Dyddiad Prif Wrthblaid Arweinydd yr Wrthblaid
Tŷ'r Cyffredin
Arweinydd yr Wrthblaid
Tŷ'r Arglwyddi
1807, Mawrth Chwig swydd yn wag Arglwydd Grenville 1
1808 George Ponsonby +
1817, 8 Gorffennaf swydd yn wag
1817 Iarll Grey 2
1818 George Tierney
1821, 23 Ionawr swydd yn wag
1824 3ydd Ardalydd Lansdowne A
1827, Ebrill High Ceidwadwyr Robert Peel 2 Dug Wellington 2
1828, Ionawr Chwig swydd yn wag 3ydd Ardalydd Lansdowne A
1830, Chwefror Isiarll Althorp
1830, Tachwedd Ceidwadwyr Syr Robert Peel, Barwnig 2 Dug Wellington 3
1834, Tachwedd Chwig Arglwydd John Russell 2 Isiarll Melbourne 3
1835, Ebrill Ceidwadol Syr Robert Peel, Barwnig 3 Dug Wellington 1
1841, Awst Chwig Arglwydd John Russell 2 Isiarll Melbourne 1
1842, Hydref 3ydd Ardalydd Lansdowne
1846, Mehefin Protectionist Conservative Arglwydd George Bentinck Arglwydd Stanley o Bickerstaffe
(Iarll Derby o 1851)
2
1848, 10 Chwefror Ardalydd Granby
1848, 4 Mawrth swydd yn wag
1849, Chwefror Ardalydd Granby;
John Charles Herries; a
Benjamin Disraeli 2
1851 Benjamin Disraeli 2
1852, Chwefror Chwig Arglwydd John Russell 3 3ydd Ardalydd Lansdowne
1852, Rhagfyr Ceidwadol Benjamin Disraeli 2 Iarll Derby 3
1858, Chwefror Chwig Isiarll Palmerston 3 B Iarll Granville
1859, Mehefin Ceidwadol Benjamin Disraeli 2 Iarll Derby 3
1866, Mehefin Rhyddfrydol William Ewart Gladstone 2 Iarll Russell
(Arglwydd John Russell gynt)
1
1868, Rhagfyr Iarll Granville
1868, Rhagfyr Ceidwadol Benjamin Disraeli 3 Iarll Malmesbury
1869, Chwefror Arglwydd Cairns
1870, Chwefror Dug Richmond
1874, Chwefror Rhyddfrydol William Ewart Gladstone 3 Iarll Granville
1875, Chwefror Ardalydd Hartington
1880, Ebrill Ceidwadol Syr Stafford Northcote, Barwnig Iarll Beaconsfield
(Benjamin Disraeli)
+ 1
1881, Mai 3ydd Ardalydd Salisbury 2
1885, Mehefin Rhyddfrydol William Ewart Gladstone 3 Iarll Granville
1886, Chwefror Ceidwadol Syr Michael Hicks Beach, Barwnig 3ydd Ardalydd Salisbury 3
1886, Gorffennaf Rhyddfrydol William Ewart Gladstone 3 Iarll Granville +
1891, Ebrill Iarll Kimberley
1892, Awst Ceidwadol Arthur James Balfour 2 3ydd Ardalydd Salisbury 3
1895, Mehefin Rhyddfrydol Syr William Harcourt C Iarll Rosebery 1 D
1897, Ionawr Iarll Kimberley +
1899, 6 Chwefror Syr Henry Campbell-Bannerman 2
1902 Iarll Spencer
1905 Ardalydd Ripon
1905, 5 Rhagfyr Ceidwadol Arthur James Balfour 1 E 5ed Ardalydd Lansdowne
(Plaid Undebwyr Rhyddfrydol hyd 1912)
1906 Joseph Chamberlain
(Plaid Undebwyr Rhyddfrydol)
1906 Arthur James Balfour 1
1911, 13 Tachwedd Andrew Bonar Law 2
1915, 25 Mai swydd yn wag F swydd yn wag F
1915, October Gwrthblaid Ceidwadol Syr Edward Carson
(Irish Unionist Party) F
1916, 6 Rhagfyr Gwrthblaid Rhyddfrydol Herbert Henry Asquith 1 G Ardalydd Crewe
1919, 3 Chwefror Syr Donald Maclean H
1920 Herbert Henry Asquith 1
1922, 21 Tachwedd Llafur Ramsay MacDonald 2 swydd yn wag I
1924, 22 Ionawr Ceidwadol Stanley Baldwin 3 Ardalydd Curzon o Kedleston
1924, 4 Tachwedd Llafur Ramsay MacDonald 3 Isiarll Haldane +
1928 Arglwydd Parmoor
1929, 5 Mehefin Ceidwadol Stanley Baldwin 3 4ydd Ardalydd Salisbury
1930 Isiarll Hailsham
1931, Awst Llafur Arthur Henderson J Arglwydd Parmoor
1931, Tachwedd George Lansbury K Arglwydd Ponsonby o Shulbrede
1935, 25 Hydref Clement Attlee 2 L Arglwydd Snell
1940, 22 Mai Hastings Lees-Smith + M Arglwydd Addison N
1942, 21 Ionawr Frederick Pethick-Lawrence M
1942, Chwefror Arthur Greenwood M
1945, 23 Mai Clement Attlee 2
1945, 26 Gorffennaf Ceidwadol Winston Churchill 3 Isiarll Cranborne (5ed Ardalydd
Salisbury o 1947)
O
1951, 26 Hydref Llafur Clement Attlee 1 Isiarll Addison +
1952 Iarll Jowitt
1955, Tachwedd Herbert Morrison P Isiarll Alexander o
Hillsborough (Iarll Alexander o
Hillsborough o 1963)
1955, 14 Rhagfyr Hugh Gaitskell +
1963, 18 Ionawr George Brown P
1963, 14 Chwefror Harold Wilson 2
1964, 16 Hydref Ceidwadol Syr Alec Douglas-Home 1 Arglwydd Carrington
1965, 28 Gorffennaf Edward Heath 2
1970, 19 Mehefin Llafur Harold Wilson 3 Arglwydd Shackleton
1974, 4 Mawrth Ceidwadol Edward Heath 1 Arglwydd Carrington
1975, 11 Chwefror Margaret Thatcher 2
1979, 4 Mai Llafur James Callaghan 1 Arglwydd Peart
1980, 10 Tachwedd Michael Foot
1982 Arglwydd Cledwyn Penrhos
1983, 2 Hydref Neil Kinnock
1992, 18 Gorffennaf John Smith + Arglwydd Richard
1994, 12 Mai Margaret Beckett P
1994, 21 Gorffennaf Tony Blair 2
1997, 2 Mai Ceidwadol John Major 1 Isiarll Cranborne O
1997, 19 Mehefin William Hague
1998, 2 Rhagfyr Arglwydd Strathclyde
2001, 18 Medi Iain Duncan Smith
2003, 6 Tachwedd Michael Howard
2005, 6 Rhagfyr David Cameron

Nodiadau:

  • 1 Cyn Brif Weinidog
  • 2 Daeth yn Brif Weinidog yn ddiweddarach
  • 3 Cyn Brif Weinidog a ddaeth yn Brif Weinidog eto yn ddiweddarach
  • A Cynnigiai Foord y bu Lansdowne, mewn effaith, yn gweithredu fel arweinydd y Blaid Chwig o 1824–1827. Mae'n bosib mai dyma oedd yr achos o 1828–1830 yn ogystal. Mae erthygl Grey yn yr Oxford Dictionary of National Biography yn cynnig "... though he called on Lansdowne to take up the leadership of the opposition he was still unwilling to give it up altogether". Roedd Grey yn yr wrthblaid ym 1827–1828, pan oedd Lansdowne yn llywodraethu. Oherwydd dryswch y gwleidyddiaeth ar y pryd, yn enwedig wedi 1827 pan bu'r ddwy blaid yn ddarniad, mae'n bosib mai Grey ddylid gael ei gysidro fel Arweinydd yr Wrthblaid o 1824–1830. Ond, mae datganiadau pendant (gan Foord) fod Grey wedi ymddeol yr arweinyddiaeth ym 1824 a (gan Cook & Keith) na ail-gymerodd Grey yr arweiniaeth tan Tachwedd 1830.
  • B Dadansoddid amgen yw y bu Palmerston (y cyn Brif Weinidog diwedddaraf) a'r Arglwydd John Russell (cyn Brif Weinidog) yn gyd-arweinwyr. Ond, mae Cook & Keith yn rhestru Palmerston fel yr arweinydd.
  • C Ymddeolodd Harcourt ar 14 Rhagfyr 1898.
  • D Ymddeolodd Rosebery ar 6 Hydref 1896.
  • E Collodd Balfour ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Ionawr 1906.
  • F Yn ystod llywodraeth clymblaid Asquith o 1915–1916, nid oedd gwrth blaid swyddogol yn Nhŷ'r Cyffredin na'r Arglwyddi. Yr unig blaid nad oedd yn ran o glymblaid Rhyddfrydol, Llafur a Ceidwadol Asquith oedd Plaid Cenedlaetholgar Iwerddon a arweinwyd gan John Redmond. Ond, roedd y blaid yn gefnogol o'r llywodraeth a ni weithredont fel gwrthblaid.
Ymddeolodd Syr Edward Carson o'r glymbalid ar 19 Hydref 1915, ef oedd y ffigwr mwyaf blaengar ymysg cynghreiriaid Undebwyr Iwerddon y Baid Geidwadol1. Felly daeth yn un o'r Undebwyr nad oedd yn aelod o'r llywodraeth ac felly, yn weithredol, yn arweinydd yr Wrthblaid yn Nhŷ'r Cyffredin.
  • G Collodd Asquith ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin ym 1918.
  • H Sylwebodd Douglas yn The History of the Liberal Party 1895-1970, fod "The technical question whether the Leader of the Opposition was Maclean or William Adamson, Chairman of the Parliamentary Labour Party, was never fully resolved ... The fact that Adamson did not press his claim for Opposition leadership is of more than technical interest, for it shows that the Labour Party was still not taking itself seriously as a likely alternative government".
  • I Ni apwyntiodd y Blaid Lafur arweinydd yn Nhŷ'r Arglwyddi, tan iddynt ffurfio eu llywodraeth cyntaf ym 1924.
  • J Collodd Henderson ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin 27 Hydref 1931.
  • K Gweithredodd Lansbury fel arweinydd, yn absonoldeb Henderson o Dŷ'r Cyffredin, ym 1931–1932; cyn dod yn arweinydd y blaid go iawn ym 1932.
  • L Gweithredodd Attlee fel arweinydd, wedi ymddeoliad Lansbury ar 25 Hydref 1935, cyn cael ei ethol yn arweinydd y blaid ar 3 Rhagfyr 1935.
  • M Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gweithredodd olyniaeth o wleidyddion Llafur fel Arweinydd yr Wrthblaid er mwy galluogi i Dŷ'r Cyffredin barhau i weithredu. Ond, oherwydd bu llywodraeth 1940–1945 yn lywodraeth clymblaid lle gwithredodd gwleidyddion Llafur yn gyflawn fel aelodau o'r llywodraeth, o'r Is-brif Weinidog Clement Attlee ac i lawr, ni dderbyniodd unrhyw un ohonynt gyflog fel Arweinydd yr Wrthblaid.
Y Blaid Lafur Annibynnol a arweinwyd gan James Maxton oedd y blaid fwyaf a wrthwynebodd y rhyfel ac nad oedd yn ran o'r glymblaid, ac felly mewn theori hwy oedd yr wrthblaid. Ond, gyda ond tri AS, atalwyd hwy rhag gymryd drosodd mainc blaen yr wrthblaid.
  • N Nid oedd yr Arglwydd Addison yn aelod o'r llywodraeth glymblaid yn ystod y rhyfel. Pan fu Llafur mewn llywodraeth o Mai 1940 hyd Mai 1945, yn ôl pob tebyg gweithredodd Addison fel Arweinydd technegol yr Wrthblaid, yn yr un modd ag arweinwyr gweithredol Tŷ'r Cyffredin.
  • O Isiarll Cranborne yw'r teitl cwrteisi a roddir i etifeddydd teitl Ardalydd Salisbury. Mae dau Arglwydd Cranborne wedi bod yn Arweinwyr yr Wrthblaid yn Nhŷ'r Arglwyddi. Eisteddont yn Nhŷ'r Arglwyddi oherwydd gwrit cyflymiad a effeithiodd un o'r Barwniaethau teuluol.
  • P Yn gyffredinol, yr arweinydd gweithredol wedi marwolaeth neu ymddiswyddiad yr arweinydd, ond yn ôl cyfansoddiad y Blaid Lafur, y gwir arweinydd tan i arweinydd newydd gael ei ethol. Cyn 1981, etholwyd arweinydd gwrthblaid y Blaid Lafur Seneddol yn flynyddol. Wedi 1981, etholwyd yr arweinydd gan goleg etholaethol yng nghynhadleddau'r blaid.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  • British Historical Facts 1760-1830, Chris Cook a John Stevenson (The Macmillan Press 1980)
  • British Historical Facts 1830-1900, Chris Cook a Brendan Keith (The Macmillan Press 1975)
  • His Majesty's Opposition 1714-1830, Archibald S. Foord (Oxford University Press 1964)
  • HisCeidwadwyr of the Liberal Party 1895-1970, Roy Douglas (Sidgwick & Jackson 1971)
  • Oxford Dictionary of National Biography
  • Twentieth Century British Political Facts 1900-2000, David Butler a Gareth Butler (Macmillan Press 8fed rhifyn, 2000)