Neville Chamberlain
| Neville Chamberlain | |
|
|
|
| Cyfnod yn y swydd 28 Mai 1937 – 10 Mai 1940 |
|
| Rhagflaenydd | Stanley Baldwin |
|---|---|
| Olynydd | Winston Churchill |
|
|
|
| Geni | 18 Mawrth 1869 Edgbaston, Birmingham |
| Marw | 9 Tachwedd 1940 (71 oed) Heckfield, Hampshire |
| Plaid wleidyddol | Ceidwadol |
Gwleidydd Seisnig a fu'n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig o 1937 hyd 1940 oedd Arthur Neville Chamberlain (18 Mawrth 1869 – 9 Tachwedd 1940). Roedd yn aelod o'r Blaid Geidwadol. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ran yng Nghynhadledd München.
Ganed ef yn ninas Birmingham, yn fab i Joseph Chamberlain, maer y ddinas, ac yn frawd Austen Chamberlain. Bu farw ei fam pan oedd yn 6 oed. Dechreuodd ei yrfa wleidyddol yn 42 oed, pan etholwyd ef i gyngor Birmingham. Saith mlynedd yn ddiweddarach, etholwyd ef yn Aelod Seneddol. Daeth yn Weinidog Iechyd yn 1923, ac yn Ganghellor y Trysorlys yn 1929. Ar 28 Mai 1937 daeth yn Brif Weinidog.
Yn 1938, hawliodd Adolf Hitler, Canghellor yr Almaen, diriogaeth y Sudetenland oddi ar Tsiecoslofacia. Cyfarfu Chamberlain a Raymond Daladier, prif weinidog Ffrainc, â Hitler a'i gyngheiriad Benito Mussolini yn München. Gwnaed cytundeb i roi'r Sudetenland i Hitler, gan osgoi rhyfel am y tro. Ymddiswyddodd Chamberlain ar 10 Mai 1940, pan ymosododd yr Almaen ar Wlad Belg a Ffrainc. Olynwyd ef gan Winston Churchill. Bu farw o gancr chwe mis yn ddiweddarach.
| Arweinwyr y Blaid Geidwadol |
|---|
|
Arthur Wellesley • Edward Smith-Stanley • James Harris • Hugh Cairns • Charles Gordon-Lennox • Benjamin Disraeli • Robert Gascoyne-Cecil • Spencer Cavendish • Henry Petty-FitzMaurice • George Curzon Robert Peel • Yr Arglwydd George Bentinck • Charles Manners • Benjamin Disraeli (gyda Charles Manners a John Charles Herries) • Benjamin Disraeli • Stafford Northcote • Michael Hicks Beach • Yr Arglwydd Randolph Churchill • William Henry Smith • Arthur Balfour • Andrew Bonar Law • Austen Chamberlain Andrew Bonar Law • Stanley Baldwin • Neville Chamberlain • Winston Churchill • Anthony Eden • Harold Macmillan • Alec Douglas-Home • Edward Heath • Margaret Thatcher • John Major • William Hague • Iain Duncan Smith • Michael Howard • David Cameron |