Andrew Bonar Law
| Andrew Bonar Law | |
|
|
|
| Cyfnod yn y swydd 23 Hydref 1922 – 23 Mai 1923 |
|
| Teyrn | Siôr V |
|---|---|
| Rhagflaenydd | David Lloyd George |
| Olynydd | Stanley Baldwin |
|
|
|
| Cyfnod yn y swydd 13 Tachwedd 1911 – 25 Mai 1915 |
|
| Teyrn | Siôr V |
| Prif Weinidog | Herbert Henry Asquith |
| Rhagflaenydd | Arthur Balfour |
| Olynydd | Swydd wag delwyd nesaf gan Syr Edward Carson ym mis Hydref 1915 |
|
|
|
| Cyfnod yn y swydd 10 Rhagfyr 1916 – 10 Ionawr 1919 |
|
| Prif Weinidog | David Lloyd George |
| Rhagflaenydd | Reginald McKenna |
| Olynydd | Austen Chamberlain |
|
|
|
| Cyfnod yn y swydd 25 Mai 1915 – 10 Rhagfyr 1916 |
|
| Prif Weinidog | Herbert Henry Asquith David Lloyd George |
| Rhagflaenydd | The Viscount Harcourt |
| Olynydd | The Viscount Long |
|
|
|
| Cyfnod yn y swydd 10 Ionawr 1919 – 1 Ebrill 1921 |
|
| Prif Weinidog | David Lloyd George |
| Rhagflaenydd | Iarll Crawford |
| Olynydd | Austen Chamberlain |
|
|
|
| Geni | 16 Medi 1858 Rexton, New Brunswick |
| Marw | 30 Hydref 1923 (65 oed) Llundain |
| Plaid wleidyddol | Ceidwadol |
Gwleidydd Seisnig Ceidwadol oedd Andrew Bonar Law PC (16 Medi 1858 – 30 Hydref 1923), a adnabyddwyd yn gyffredin fel Bonar Law. Ganwyd yng ngwladfa newydd New Brunswick, ef oedd unig Prif Weinidog y Deyrnas Unedig i gael ei eni tu allan i Ynysoedd Prydain, a'r un a wasanaethodd y tymor byraf yn yr 20fed ganrif gan wasanaethu ond 211 diwrnod yn y swydd.
[golygu] Bywgraffiad
Ganwyd Law yn fab i bregethwr gwledig a'i wraig yn New Brunswick, ac yno treuliodd ei fywyd cynnar. Ychydig flynyddoedd wedi marwolaeth ei fam ym 1861, ail-briododd ei dad, a symudodd Law i Helensburgh, yr Alban, i fyw gyda chwaer ei fam Janet a'i theulu, a redodd fanc masnachwyr llwyddianus. Wedi iddo gael ei addysgu mewn ysgol baratoadol yn Hamilton ac Ysgol Uwchradd Glasgow, gadawodd Law yr ysgol yn 16 oed i gael "addysg masnachol" yng nghwmni'r teulu. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach gwerthwyd y cwmni i'r Clydesdale Bank, gan roi gyrfa Law mewn perygl tan i'w ewythrod rho benthyg arian iddo brynu partneriaeth mewn cwmni masnachwyr haearn. Trwy waith caled a chraffter busnes Law, ffynnodd y cwmni odan ei arweinyddiaeth, ac erbyn iddo droi'n 30 oed roedd yn gymharol gyfoethog.
Aeth Law i mewn i wleidyddiaeth yn gyntaf ym 1897, pan ofynwyd iddo ddod yn ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer seddi Glasgow Bridgeton ac yna Glasgow Blackfriars a Hutchesontown, gan dderbyn Blackfriars. Er y bu mwyafrif cryf Rhyddfrydol yn ei sedd, ymgyrchodd Law yn llwyddianus ar gyfer Etholiad Cyffredin 1900 ac aeth i'r Senedd. Yn Nhŷ'r Cyffredin, daeth yn enwog am ei gof ardderchog a'i areithyddiaeth, ac yn fuan enillodd safle ar fainc blaen y Ceidwadwyr. Bu'n gefnogwr cryf o'r diwygiad tollau, ac apwyntiwyd Law yn Ysgrifennydd Seneddol y Bwrdd Masnach ym 1902.
Rhannwyd y Blaid Geidwadol gan y mater o'r diwygiad tollau, ac ymddeolodd y Prif Weinidog Arthur Balfour, gan annog Etholiad Cyffredin lle gwthiwyd y Blaid Geidwadol i safle'r wrth blaid. Mewn gwrthwynebiad, parhaodd Law i ddadlau dros ddiwygiad tollau, yn y Senedd ac o fewn ei blaid, gan osgoi yn gyffredinol yr argyfwng cyfansoddiadol oamgylch Cyllid y Bobl ym 1909. Apwyntwyd ef yn Gyngorydd Cyfrin y flwyddyn honno gan ei nodi fel Ceidwadwr blaengar, a pan ddaeth yn amlwg y byddai Arthur Balfour yn ymddeol fel Arweinydd y Blaid Geidwadol, rhoddodd Law ei enw ymlaen. Er y bu'n rhedeg yn drydydd ar ôl Walter Long ac Austen Chamberlain, enillodd Law'r etholiad yn y pen draw pan holltwyd y blaid gan y posibilrwydd cryf y buasai Long a Chamberlain yn tynnu'n hafal, a thynnodd y ddau allan o'r etholiad.
Fel Arweinydd y Blaid Geidwadol, canolbwyntiodd Law ar ddwy brif fater; diwygiad tollau, a gefnogodd, a Hunanlywodraeth Iwerddon, a wrthwynebodd. Fel arweinydd y gwrthblaid nid oedd mewn sefyllfa lle gall wneud unrhyw newidiadau, ond cafodd ei ymgyrchu cryf yr effaith o droi ymdrechion y Rhyddfrydwyr i basio'r Trydydd Mesur Hunanlywodraethu yn frwydr a barhaodd tair mlynedd cyn cael ei atal yn y pen draw gan ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.
| Arweinwyr y Blaid Geidwadol |
|---|
|
Arthur Wellesley • Edward Smith-Stanley • James Harris • Hugh Cairns • Charles Gordon-Lennox • Benjamin Disraeli • Robert Gascoyne-Cecil • Spencer Cavendish • Henry Petty-FitzMaurice • George Curzon Robert Peel • Yr Arglwydd George Bentinck • Charles Manners • Benjamin Disraeli (gyda Charles Manners a John Charles Herries) • Benjamin Disraeli • Stafford Northcote • Michael Hicks Beach • Yr Arglwydd Randolph Churchill • William Henry Smith • Arthur Balfour • Andrew Bonar Law • Austen Chamberlain Andrew Bonar Law • Stanley Baldwin • Neville Chamberlain • Winston Churchill • Anthony Eden • Harold Macmillan • Alec Douglas-Home • Edward Heath • Margaret Thatcher • John Major • William Hague • Iain Duncan Smith • Michael Howard • David Cameron |