George Grenville
| George Grenville | |
|
|
|
| Cyfnod yn y swydd 16 Ebrill 1763 – 13 Gorffennaf 1765 |
|
| Rhagflaenydd | Yr Iarll Bute |
|---|---|
| Olynydd | Yr Ardalydd Rockingham |
|
|
|
| Cyfnod yn y swydd 16 Ebrill 1763 – 16 Gorffennaf 1765 |
|
| Rhagflaenydd | Syr Francis Dashwood, 2il Bt. |
| Olynydd | William Dowdeswell |
|
|
|
| Geni | 14 Hydref 1712 San Steffan, Llundain |
| Marw | 13 Tachwedd 1770 Llundain |
| Etholaeth | Buckingham |
| Plaid wleidyddol | Chwig |
Gwladweinydd Chwig Prydeinig oedd George Grenville (14 Hydref 1712 – 13 Tachwedd 1770), a weinyddodd yn y senedd am gyfnod gymharol fyr o saith mlynedd, gan ddodd yn Brif Weinidog yn yr amser hwnnw. Bu'n un o'r prif weinidogion prin ar y pryd, na olynodd i'r bendefigaeth (mae eraill yn cynnwys William Pitt yr Ieuengaf, Syr Winston Churchill, George Canning, Spencer Percival, a William Gladstone).
Roedd Grenville yn ail fab i Richard Grenville a Hester Temple (Iarlles 1af Temple yn ddiweddarach). Daeth ei frawd hynaf, Richard Grenville-Temple, yn ail Iarll Temple. Addysgwyd Grenville yng Ngholeg Eton ac Eglwys Crist, Rhydychen, a gelwyd ef i'r bar yn 1736. Aeth i fewn i'r Senedd yn 1741 fel aelod yn cynyrchioli Buckingham, gan gario'n mlaen i gynyrchioli'r etholaeth honno hyd ei farwolaeth.