Margaret Thatcher

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Margaret Thatcher
Margaret Thatcher


Cyfnod yn y swydd
4 Mai 1979 – 28 Tachwedd 1990
Rhagflaenydd James Callaghan
Olynydd John Major

Geni 13 Hydref 1925
Grantham, Swydd Lincoln
Marw 8 Ebrill, 2013
Llundain, Lloegr
Plaid wleidyddol Ceidwadol
Priod Denis Thatcher

Prif Weinidog Ceidwadol Y Deyrnas Unedig rhwng 1979 a 1990, a'r ddynes gyntaf i ddal y swydd, oedd Margaret Hilda Thatcher (née Roberts) (13 Hydref 1925 - 8 Ebrill, 2013). Ni wnaeth neb fwy na hi i chwalu'r consensws gwleidyddol wedi'r Ail Ryfel Byd a gelwir y cyfnod hwn bellach yn "Thatcheriaeth" a hithau yn "Iron Lady". Redd yn benderfynol o ymestyn yr egwyddor o farchnad rydd[1], ac yn ystod ei llywodraeth hi, preifateiddiwyd llu o wasanaethau cyhoeddus a diwydiannau a wladolwyd gan lywodraethau Llafur, gan gynnwys y rheilffyrdd, dŵr, trydan, nwy, olew, glo a dur. Ei sedd seneddol oedd Finchley yn Llundain.

Daeth yn symbol o'r gwrthdaro rhwng y chwith a'r dde yng ngwledydd Prydain, yn enwedig yn ystod Streic y Glowyr (1984–5). Cymaint oedd ei dylanwad hi fel y llwyddodd i weddnewid gwleidyddiaeth Prydain yn gyfan gwbl, gan baratoi'r ffordd ar gyfer Llafur Newydd.

Mae'r farn ohoni wedi'i begynnu'n eithriadol e.e. ar Sky News, ar ddiwrnod ei marwolaeth, gwelwyd pobl ifanc yn dathlu ar y strydoedd gyda champane ac ar y llaw arall cafwyd cyfweliadau gyda phlismon a gwleidydd Ceidwadol a oedd yn yn mynnu mai hi oedd y Prifweinidog gorau erioed. Ysgrifennodd Dafydd Iwan gân yn dychanu'r "ddynes o haearn" a waharddwyd gan Radio Cymru ac S4C am tua tri-deg o flynyddoedd.

Y cyfnod cynnar[golygu]

Y tŷ lle'i ganed; Grantham.

Alfred Roberts, yn wreiddiol o Swydd Northampton, oedd ei thad a Beatrice Ethel (née Stephenson) o Swydd Lincoln oedd ei mam.[2] Treuliodd ei blynyddoedd cynnar yn Grantham, ble roedd ei thad yn berchennog dau siop ffrwythau a llysiau.[3] Roedd hi a'i chwaer hŷn Muriel yn byw uwch y siop mwyaf, ger yr orsaf reilffordd[3] gyda'u rhieni. Roedd ei thad yn ymddiddori mewn glweidyddiaeth leol a'r capel Methodistaidd lleol fel henadur a phregethwr lleyg; roedd yn gartref eitha llym.[4] Er ei fod yn hannu o deulu Rhyddfrydol, safodd fel cynghorydd yn annibynol o blaid. Bu'n faer Grantham rhwng 1945–46 a chollodd ei swydd fel henadur yn 1952 pan gipiodd y Blaid Lafur fwyafrif Cyngor Tref Grantham.[5]

Cemegydd ydoedd o ran hyfforddiant academaidd ac yna bargyfreithwraig. Daeth yn Aelod Seneddol dros Finchley yn 1959. Fe'i penodwyd gan Edward Heath yn Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Gwyddoniaeth yn 1970 a phum mlynedd yn ddiweddarach fe drechodd ef yn ei ymgais i fod yn arweinydd y Ceidwadwyr ac felly'n arweinydd yr wrthblaid.

Prifweinidogaeth[golygu]

Rhyfel y Falklands[golygu]

Penderfynodd Thatcher ddanfon tasglu llyngesol i ad-ennill Islas Malvinas (Ynysoedd y Falklands), tiriogaeth Brydeinig yn Ne'r Iwerydd, pan gafodd yr ynys eu goresgynu gan yr Ariannin ym 1982. Roedd buddugoliaeth y Deyrnas Unedig yn Rhyfel y Falklands yn hwb i boblogrwydd Thatcher, ac o bosib yn ffactor pam yr enillodd y Ceidwadwyr etholiad cyffredinol 1983.[6]

Marwolaeth[golygu]

Bu farw Margaret Thatcher o strôc ar 8 Ebrill 2013 yng ngwesty'r Ritz yn Llundain.[7]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Maniffesto'r Blaid Geidwadol, 1979
  2. Beckett 2006, t. 5
  3. 3.0 3.1 Beckett 2006, t. 3
  4. Johnson, Maureen (28 Mai 1988). "Bible-Quoting Thatcher Stirs Furious Debate". Associated Press. 
  5. Beckett 2006, t. 8
  6. (Saesneg) Political Commentary - The 'Falklands Factor' Revisited. Ipsos MORI (10 Ebrill 2007). Adalwyd ar 8 Ebrill 2013.
  7. (Saesneg) Rayner, Gordon a Swinford, Steven (8 Ebrill 2013). Margaret Thatcher dies of stroke aged 87. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.

Darllen pellach[golygu]

  • Roy, Subroto a Clarke, John. Margaret Thatcher's Revolution (Llundain, Continuum, 2005).

Dolenni allanol[golygu]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Crowder
Aelod Seneddol dros Finchley
19591992
Olynydd:
Hartley Booth
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Edward Short
Ysgrifennydd Gwladol Addysg a Gwyddoniaeth
20 Mehefin 19704 Mawrth 1974
Olynydd:
Reginald Prentice
Rhagflaenydd:
James Callaghan
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
4 Mai 197928 Tachwedd 1990
Olynydd:
John Major
Swyddi gwleidyddol pleidol
Rhagflaenydd:
Edward Heath
Arlywydd y Blaid Geidwadol
19751990
Olynydd:
John Major
Arweinwyr y Blaid Geidwadol
Yn Nhŷ'r Arglwyddi (cyn 1922)

Arthur WellesleyEdward Smith-StanleyJames HarrisHugh CairnsCharles Gordon-LennoxBenjamin DisraeliRobert Gascoyne-CecilSpencer CavendishHenry Petty-FitzMauriceGeorge Curzon

Yn Nhŷ'r Cyffredin (cyn 1922)

Robert PeelYr Arglwydd George BentinckCharles MannersBenjamin Disraeli (gyda Charles Manners a John Charles Herries) • Benjamin DisraeliStafford NorthcoteMichael Hicks BeachYr Arglwydd Randolph ChurchillWilliam Henry SmithArthur BalfourAndrew Bonar LawAusten Chamberlain

Arweinwyr (ers 1922)

Andrew Bonar LawStanley BaldwinNeville ChamberlainWinston ChurchillAnthony EdenHarold MacmillanAlec Douglas-HomeEdward HeathMargaret ThatcherJohn MajorWilliam HagueIain Duncan SmithMichael HowardDavid Cameron