William Ewart Gladstone

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
W. E. Gladstone
Hoff ddiddordeb W. E. Gladstone oedd torri coed

Gwleidydd Rhyddfrydol a Phrif Weinidog Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon bedair gwaith (1868-1874, 1880-1885, 1886, a 1892-1894) oedd William Ewart Gladstone (29 Rhagfyr, 1809 - 19 Mai, 1898). Roedd ef a'r Frenhines Victoria'n anghytun a'i gilydd drwy gydol ei oes; unwaith fe ddywedodd hi amdano, "He always addresses me as if I were a public meeting". Roedd yn cael ei alw'n "Grand Old Man", fodd bynnag. Dadleuodd yn ddewr dro ar ôl tro dros Iwerddon Rydd, ac ymddiswyddodd fel Prif Weinidog yn 1886 pan daflwyd ei gynnig dros hunan lywodraeth i Iwerddon.[1]

William Gladstone oedd pedwerydd mab Syr John Gladstone, masnachwr o Lerpwl, a siaradodd ef gydag acen Lerpwl trwy gydol ei oes. Aeth William i Goleg Eton ac wedyn i Goleg Eglwys Grist, Rhydychen i astudio'r Clasuron a Mathemateg. Roedd e am fod yn offeiriad, ond yng Nghymdeithas Trafod Undeb Rhydychen (Oxford Union debating society) gwnaeth ei enw fel areithiwr arbennig.

Gyrfa[golygu]

Cafodd Gladstone ei ethol i San Steffan am y tro cyntaf yn 1832, fel Aelod Seneddol Ceidwadol Newark, Swydd Nottingham. Roedd yn erbyn y ddeddf i ddileu caethwasanaeth yn 1833, a'r deddfau ffatrioedd i wellhau bywyd y gweithwyr. Yn 1839 fe briododd Catherine Glynne, aelod o'r teulu Glynne o Gastell Penarlâg yn Sir y Fflint.

Ei gastell ym Mhenarlâg[golygu]

Yn 1839 priododd Catherine Glynne (6 Ionawr 181214 Mehefin 1900) merch Stephen Glynne (8ed Barwn Castel Penarlâg) yn y castell yn Sir y Fflint. Drwy ei brawd Syr Stephen Glynne (a oedd yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol) y gwnaeth hi gyfarfod â William Gladstone. Cawsant wyth o blant: William, Agnes, Helen, Henry, Herbert, Mary, Catherine Jessie a John.

Roedd teulu'r Glynne-iaid o Benarlâg yn olrhain eu llinach yn ôl at deulu'r Glyniaid o Lynllifon (i Syr William Glynne o a chynt).[2]

Gofeb farmor i Gladstone a'i wraig yn Eglwys San Deiniol, Penarlâg.

Gladstone oedd sefydlydd Llyfrgell Deiniol Sant, ym Mhenarlâg sy'n dal i fod ac ar agor i'r cyhoedd.

Cyfeiriadau[golygu]

Llyfryddiaeth[golygu]

Oherwydd ei gysylltiadau â Chymru ar adeg pan fu Rhyddfrydiaeth yn cael cefnogaeth y mwyafrif o'r Cymry, ceir sawl llyfr am Gladstone yn y Gymraeg. Er enghraifft:

  • Griffith Ellis, William Ewart Gladstone: Ei fywyd a'i waith (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1898). Cofiant swmpus darlunedig.

Dolen allanol[golygu]