Joseff Stalin

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Gwleidydd ac unben Sofietaidd oedd Joseff Stalin (18 Rhagfyr, 1878 yn Gori, Georgia a oedd pryd hynny'n rhan o Ymerodraeth Rwsia - 5 Mawrth, 1953 yn Moscfa). Ei enw gwreiddiol oedd Joseph Vissarionovich Dzhugashvili (Georgeg: იოსებ ჯუღაშვილი; Rwsieg: Ио́сиф Виссарио́нович Джугашвили). Ar bapur, roedd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Pwyllgor Canolog Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd (1922-1953), ond mewn gwirionedd roedd yn rheoli'r wlad fel unbem o 1928 hyd ei farwolaeth. Roedd yn cael ei adnabod ar lafar fel "Wncl Jo".

Bu i'w bolisïau achosi lawer iawn o ddioddef yn yr Undeb Sofietaidd, ac mae'n debyg i'w gyfundrefn achosi tua 10 miliwn marwolaeth (Ond noder fod amcangyfrifon yn amrywio o 4 miliwn hyd at 20 miliwn).

Roedd yn un o arweinwyr cynghreiriol yr Ail Ryfel Byd, ynghyd â Winston Churchill a Franklin Roosevelt.

[golygu] Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol