Brwydr Stalingrad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Milwr o'r Fyddin Goch yn chwifio'r faner Sofietaidd yn Sgwar Ganolog Stalingrad, Chwefror 1943.

Brwydr yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd Brwydr Stalingrad (17 Gorffennaf 1942 - 2 Chwefror 1943), a ymladdwyd rhwng byddin yr Undeb Sofietaidd a byddin yr Almaen Natsïaidd a'i chyngheiriaid. Ymladdwyd y frwydr o amgylch dinas Stalingrad (Volgograd heddiw), ar afon Volga. Ystyrir y frwydr yn un o frwydrau pwysicaf yr Ail Ryfel Byd, a buddugoliaeth y Fyddin Goch yn drobwynt yn y rhyfel.

Roedd yr Almaen, ar orchymyn Adolf Hitler, wedi ymosod ar yr Undeb Sofietaidd yn mis Mehefin 1941, er gwaethaf cytundeb heddwch rhwng Hitler a Joseff Stalin. Galwyd yr ymosodiad yn Gyrch Barbarossa. Yn y misoedd cyntaf, dioddefodd y Fyddin Goch golledion dychrynllyd, ac erbyn mis Hydref roedd yr Almaenwyr yn agos at Foscfa. Fodd bynnag, ni lwyddasant i gipio'r ddinas.

Yn ystod haf 1942, ymosododd Chweched Byddin yr Almaen dan Friedrich Paulus yn y de. Dechreuodd yr ymgyrch ar 28 Mehefin. Ar 19 Awst gorchymynwyd cipio dinas Stalingrad. Ar 12 Medi, penodwyd Vasily Chukov i arwain yr amddiffynwyr yn y ddinas. Dros y misoedd nesaf bu brwydro caled o gwmpas ac yn adfeilion Stalingrad. Bu colledion trwm ar y ddwy ochr, a lladdwyd tua 40,000 o drigolion y ddinas.

Tra roedd yr ymladd yn parhau yn y ddinas, cynlluniodd y cadfridog Georgi Zhukov wrth-ymosodiad i godi'r gwarchae ar Stalingrad ac amgylchynu'r Chweched Byddin. Dechreuodd yr ymosodiad hwn ar 19 Tachwedd. Ar 23 Tachwedd, gorchymynodd Hitler nad oedd y Chweched Byddin i encilio, ond i amddiffyn eu safleoedd hyd angau. Llwyddodd y Fyddin Goch i amgylchynu'r Almaenwyr.

Ym mis Chwefror, ildiodd Paulus a gweddillion ei fyddin i'r Fyddin Goch. Dyma'r tro cyntaf i'r Almaen golli brwydr ar raddfa fawr yn yr Ail Ryfel Byd, a Paulus oedd y cadlywydd Almaenig cyntaf erioed i'w gymeryd yn garcharor.

Baner RwsiaEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.