Georgia
Oddi ar Wicipedia
- Mae'r erthygl yma am y wlad. Am y dalaith o'r Unol Daleithiau, gweler Georgia (talaith UDA)
|
|||||
| Arwyddair: Georgeg: ძალა ერთობაშია (Trawslythreniad: Dzala ertobashia |
|||||
| Anthem: Tavisupleba ("Rhyddid") |
|||||
| Prifddinas | Tbilisi | ||||
| Dinas fwyaf | Tbilisi | ||||
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Georgeg | ||||
| Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
| • Arlywydd • Prif Weinidog |
Mikheil Saakashvili Zurab Noghaideli |
||||
| Annibyniaeth Dyddiad |
Oddi ar yr Undeb Sofietaidd 9 Ebrill 1991 |
||||
| Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
69,700 km² (11af) Dim |
||||
| Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Cyfrifiad 2002 - Dwysedd |
4,371,5351 (117fed) 4,474,000 67/km² (1290fed) |
||||
| CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $15.55 biliwn (122fed) $3,300 (120fed) |
||||
| Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.732 (100fed) – canolig | ||||
| Arian cyfred | Lari Georgaidd (GEL) |
||||
| Cylchfa amser - Haf |
MSK (UTC+4) (UTC+4) |
||||
| Côd ISO y wlad | .ge | ||||
| Côd ffôn | +995 |
||||
| 1 heb gynnwys Abkhazia a De Ossetia | |||||
Gwlad ar lannau dwyreiniol y Môr Du yn y Cawcasws yw Georgia. Roedd hi'n rhan o'r Undeb Sofietaidd cyn ennill ei hannibyniaeth ym 1991. Y gwledydd cyfagos yw Rwsia i'r gogledd, Twrci i'r de-orllewin, Armenia i'r de ac Azerbaijan i'r dwyrain. Rhwng 1990 a 1995, yr enw swyddogol ar y wlad oedd Gweriniaeth Georgia. Tbilisi yw prifddinas y wlad.
Cenedl-wladwriaeth ddemocrataidd unedol yw Georgia ac mae treftadaeth hanesyddol a diwyllianol hynafol ganddi. Â gwareiddiad Georgaidd yn ôl mor bell â thair mil o flynyddoedd. Yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol, ystyrir Georgia yn rhan o Ewrop; fodd bynnag mae dosbarthu'r wlad fel un Ewropeaidd neu beidio yn dibynnu ar y ffynhonnell. Weithiau fe'i gelwir yn genedl draws-gyfandirol sy'n rhannol yn Ewrop ac yn rhannol yn Asia.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
[golygu] Hanes
[golygu] Hanes Diweddar
Ar 9 Ebrill, 1991 yn syth ar ôl datgymalu'r USSR, cyhoeddodd Georgia ei hannibyniaeth. Ar 26 Mai, 1991 etholwyd Zviad yn Arlywydd ond cododd coup d'état rhwng 22 Rhagfyr 1991 a 6 Ionawr 1992 gyda rhyfel cartref a barodd hyd at 1995. Dychwelodd Eduard Shevardnadze yn ei ôôl i Georgia yn 1992 ac etholwyd ef yn Arlywydd yn 1995.
Yn fuan wedyn dechreuodd dwy ranbarth o'r wlad: sef Abkhazia a De Ossetia gweryla â'r llywodraeth ganolog a throdd cweryl yn ymladd. Roedd Rwsia'n ochri gyda'r ddwy ranbarth a oedd yn ceisio eu hanibyniaeth eu hunain. Llwyddodd y ddwy i gael lled-annibyniaeth oddi wrth Georgia. Yn y rhyfel hyn, lladwyd dros 250,000 o Georgiaid yn y ddwy ranbarth.
Yn 2003, yn dilyn twyll yn yr etholiadau, gwthiwyd Shevardnadze (a etholwyd yn 2000) o'r neilltu gan Chwyldro'r Rhosod ac etholwyd Mikheil Saakashvili yn ei le yn 2004.
Gan fod y wlad wedi ochri gyda Chechniya yn yr Ail Ryfel Chechen, dirywiodd ei pherthynas gyda Rwsia. Ar yr un pryd, dechreuodd UDA ei harfogi.
Ar 8 Awst, 2008, rholiodd tanciau Rwsia i fewn i Dde Ossetia ac Abkhazia gan ymosod o'r awyr ar fyddin Georgia. Ar 12 Awst cytunodd Arlywydd Rwsia, sef Dmitri Medvedev, ac Arlywydd Ffrainc, sef Nicolas Sarkozy, ar gynllun heddwch chwe phwynt. Cytunodd Arlywydd Georgia gyda'r chwe phwynt:
- Dim troi at drais na chymorth treisgar gwledydd eraill
- Rhoi'r gorau i'r ymladd o'r ddwy ochor
- Caniatáu cymorth dyngarol
- Milwyr Georgia i symud yn ôl i'w gwersylloedd arferol
- Milwyr Rwsia i symud yn ôl i ble roeddent cyn y gwrthdaro.
- Agor trafodaethau rhyngwladol i sicrhau heddwch a diogelwch pobol y ddwy ranbarth.
[golygu] Diwylliant
[golygu] Economi
[golygu] Gweler hefyd
|
|
||
|---|---|---|
| Aelodau | Armenia · Azerbaijan · Belarus · Georgia · Kazakhstan · Kyrgyzstan · Moldofa · Rwsia · Tajikistan · Wcráin · Uzbekistan |
|
| Cymdeithion-aelodau | Turkmenistan | |


