De Ossetia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad De Ossetia ar fap o Georgia
Ossetia05.png
Cofeb yn Tskhinvali i'r rhai a syrthiodd yn y frwydr dros annibyniaeth

Tiriogaeth ddadleuol yn y Cawcasws yw De Ossetia (Osseteg: Хуссар Ирыстон, Khussar Iryston; Georgieg: სამხრეთ ოსეთი, Samkhret Oseti; Rwsieg: Южная Осетия, Yuzhnaya Osetiya). Yn ôl cyfraith ryngwladol, mae'n rhan de jure o weriniaeth Georgia, ond mae'n weriniaeth annibynnol de facto gyda chysylltiadau agos â Gogledd Ossetia, sy'n rhan o Ffederasiwn Rwsia. Yn hanesyddol, mae'n rhan o Ossetia, un o sawl cenedl hanesyddol bychan yn y Cawcasws. Tskhinvali yw'r brifddinas. Nid yw gweriniaeth De Ossetia yn cael ei chydnabod gan wledydd eraill.

Mae tua 60-70% o'r boblogaeth yn Ossetiaid, ac yn Fwslemiaid sy'n siarad iaith sy'n debyg i Farsi. Mae gweddill y boblogaeth, yn bennaf yn y de, yn Georgiaid.

Cyhoeddwyd gweriniaeth annibynnol De Ossetia gan wrthyfelwyr yn erbyn awdurdod Georgia yn 2001, ar ôl cyfnod o anghydfod a gwrthryfel. Erbyn heddiw mae tua 90% o boblogaeth y diriogaeth yn dal pasbortau Rwsiaidd, a hynny ar anogaeth Rwsia ei hun. Sefydlwyd llu heddwch yn y diriogaeth, yn cynnwys milwyr Rwsiaidd yn bennaf ac unedau o fyddin Georgia.

Yn ystod y nos ar 7 Awst 2008, ymosododd lluoedd arfog Georgia ar y gwrthryfelwyr a bomiwyd rhannau o ddinas Tskhinvali gan gychwyn Rhyfel De Ossetia. Ymateb Rwsia, a oedd wedi bod yn crynhoi adnoddau milwrol ar y ffin am tua dau fis, oedd anfon ei milwyr i mewn i Dde Ossetia.

Dolenni allanol[golygu]