Armenia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Հայաստանի Հանրապետություն
Hayastani Hanrapetutyun

Gweriniaeth Armenia
Baner Armenia Arfbais Armenia
Baner Arfbais
Arwyddair: Armeneg: Մեկ Ազգ , Մեկ Մշակույթ
Trawslythreniad: Mek Azg, Mek Mshakowyt
"Un Cenedl, Un Ddiwylliant"
Anthem: Mer Hayrenik
("Ein Famwlad")
Lleoliad Armenia
Prifddinas Yerevan
Dinas fwyaf Yerevan
Iaith / Ieithoedd swyddogol Armeneg
Llywodraeth Gweriniaeth unedol
- Arlywydd Serzh Sargsyan
- Prif Weinidog Hovik Abrahamyan
Annibyniaeth
- Datganwyd
- Cydnabuwyd
- Cyflawnwyd
- sefydlwyd y genedl Armenaidd
- sefydlwyd Teyrnas Urartu
- ffurfiwyd Teyrnas Armenia
- mabwysiadwyd Cristnogaeth
- sefydlwyd Gweriniaeth Ddemocrataidd Armenia
o'r Undeb Sofietaidd
23 Awst 1990
21 Medi 1991
25 Rhagfyr 1991
11 Awst 2492 BC
1000 CC
600 CC
301 OC

28 Mai 1918
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
29 800 km² (141fed)
4.71
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 2001
 - Dwysedd
 
3 215 800 (136fed)
3 002 594
101/km² (98ain)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$14.17 biliwn (127ain)
$4270 (115fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2004) 0.768 (80fed) – canolig
Arian cyfred Dram (AMD)
Cylchfa amser
 - Haf
UTC (UTC+4)
DST (UTC+5)
Côd ISO y wlad .am
Côd ffôn +374

Gweriniaeth yn ne Mynyddoedd y Cawcasws yw Gweriniaeth Armenia neu Armenia. Y gwledydd cyfagos yw Twrci i'r gorllewin, Georgia i'r gogledd, Aserbaijan i'r dwyrain ac Iran i'r de-ddwyrain. Yerevan yw'r brifddinas.

Hanes[golygu]

Prif erthygl: Hanes Armenia.

Yn y cyfnod clasurol rhennid tiriogaeth Armenia yn ddwy dalaith gan y Rhufeiniaid, sef Armenia Inferior (neu Armenia Minor) ar arfordir y Môr Du ac Armenia Superior (neu Armenia Major) yn y dwyrain. Bu ymgiprys sawl gwaith am reolaeth ar yr olaf rhwng Rhufain a phŵerau eraill yn y rhanbarth.

O'r 1550au ymlaen, roedd Armenia yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid a Phersia. Cymerodd Rwsia reolaeth dros Ddwyrain Armenia yn 1813 a 1828. Fel cenhedloedd Cristonogol eraill Ymerodraeth yr Otomaniaid, roedd yr Armeniaid yn ddinesyddion eilradd, gan ddioddef gwahaniaethu hiliol. Arweiniai galwadau am hawliau cydraddol o'r 1880au ymlaen at ymateb llym gan yr ymerodraeth a bu mwy nag un cyflafan yn erbyn y boblogaeth Armenaidd yn yr 1890au ac eto yn 1915. Mae Armeniaid a'r rhan fwyaf o haneswyr y tu allan i Dwrci yn tueddu i weld digwyddiadau 1915, pryd bu farw rhwng 650,000 a 1.5 miliwn o bobl, fel ymgais fwriadiol at hil-laddiad. Dehongliad swyddogol y digwyddiadau yn Nhwrci yw bod miloedd o bobl ar y ddwy ochr wedi marw mewn rhyfel cartref, o glefyd ac o newyn.

Golygfa ar y brifddinas Yerevan gyda Mynydd Ararat yn y cefndir

Gyda Chwyldro Rwsia yn 1917, daeth Dwyrain Armenia yn annibynnol o Rwsia fel rhan o wladwriaeth ynghyd â Georgia ac Aserbaijan. Ni pharodd y ffederasiwn ond am hanner flwyddyn, a daeth Dwyrain Armenia yn wladwriaeth annibynnol ar 28 Mai 1918. Pan chwalwyd Ymerodraeth yr Otomaniaid ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, ymunodd y tiriogaethau Armenaidd o fewn yr ymerodraeth â Gweriniaeth Ddemocrataidd Armenia dan un o delerau Cytundeb Sèvres a lofnodwyd ar 10 Awst 1920. Serch hynny, roedd Armenia yn gorfod wynebu rhagor o ryfeloedd. Collodd ryfel â Thwrci yn 1920 (y Rhyfel Dwrco-Armenaidd) ac o dan telerau Cytundeb Alexandropol gorfu iddi ildio'r rhan fwyaf o'i harfau a'i thir i Dwrci. Ar yr un pryd, ymosodwyd arni gan y Fyddin Goch, a arweiniodd at reolaeth Sofietaidd yn rhelyw'r wlad o fis Rhagfyr 1920 ymlaen. Yn 1922, ymgorfforwyd Armenia yn yr Undeb Sofietaidd fel rhan o Weriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Transcausasia (SFSR Transcaucasia), gweriniaeth a barodd tan 1936, pryd daeth Armenia yn weriniaeth ar wahân o fewn yr Undeb Sofietaidd.

Ailenillodd Armenia ei hannibyniaeth gyda chwymp yr Undeb Sofietaidd yn 1991.

Cysylltiadau allanol[golygu]


Flag of Armenia.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Armenia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.