Cytundeb München

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Chamberlain, Daladier, Hitler a Mussolini yng Nghynhadledd München.

Arwyddwyd Cytundeb München yn ninas München yn ne yr Almaen yn oriau cynnar 30 Medi 1938 (ond wedi ei dyddio 29 Medi), rhwng Adolf Hitler, Canghellor yr Almaen a'i gyngrheiriad Benito Mussolini, arweinydd yr Eidal, a Neville Chamberlain, prif weinidog y Deyrnas Unedig a Raymond Daladier, prif weinidog Ffrainc.

Roedd Hitler yn hawlio tiriogaeth y Sudetenland, ardal lle roedd mwyafrif y trigolion yn Almaenwyr ethnig, oddi ar Tsiecoslofacia. Gwrthwynebid hyn yn gryf gan lywodraeth Tsiecoslofacia, a datganodd yr Undeb Sofietaidd eu bod yn barod i roi cefnogaeth filwrol i'r Tsieciaid, ond dim ond os byddai Prydain a Ffrainc yn ymuno a hwy. Yng Nghynhadledd München, cytunodd Prydain a Ffrainc i roi'r Sudetenland i Hitler, gan osgoi rhyfel am y tro.

Yn 1939, ymosododd Hitler ar Wlad Pwyl, a'r tro hwn cyhoeddodd Ffrainc a Phrydain ryfel ar yr Almaen, gan ddechrau'r Ail Ryfel Byd.