Benito Mussolini
| Benito Amilcare Andrea Mussolini | |
|
40fed Brif Weinidog yr Eidal
|
|
| Cyfnod yn y swydd 31 Hydref 1922 – 25 Gorffennaf 1943 |
|
| Rhagflaenydd | Luigi Facta |
|---|---|
| Olynydd | Pietro Badoglio |
|
|
|
| Geni | 29 Gorffennaf 1883 Predappio, Emilia-Romagna |
| Marw | 28 Ebrill 1945 Giulino di Mezzegra, Lombardia |
| Plaid wleidyddol | Partito Nazionale Fascista |
| Priod | Rachele Mussolini |
Roedd Benito Amilcare Andrea Mussolini (29 Gorffennaf 1883 - 28 Ebrill 1945) yn wleidydd Eidalaidd ddaeth yn arweinydd plaid y Ffasgwyr yn yr Eidal pan y'i ffurfiwyd yn 1919. Daeth yn brifweinidog yr Eidal yn 1922. Rheolodd y wlad fel unben. Yn 1940 ymunodd yr Eidal dan arweinyddiaeth Mussolini yn yr Ail Ryfel Byd ar ochr Adolf Hitler. Fe'i lladdwyd gan wrthryfelwyr Eidalaidd yn Ebrill 1945.
[golygu] Hanes
Dechreuodd Mussolini ar ei yrfa wleidyddol fel sosialydd brwd, ond cefnogodd ymuno'r Eidal yn y Rhyfel Byd Cyntaf a chafodd ei fwrw allan o Blaid Sosialaidd mewn canlyniad yn 1915. Yn 1919 ffurfiodd y Fasci di combattimento (Y Crysau Duon). Daeth i rym ar ôl arwain ymdaith y Crysau Duon i Rufain yn 1922. Bu'n brif weinidog hyd 1924 pan lofruddwyd Giacomo Matteoti a datganodd ei hun yn unben ar yr Eidal dan y teitl Il duce ('Yr Arweinydd').
Fel Il duce roedd ei lywodraeth yn mwynhau cefnogaeth boblogaidd ar y dechrau. Cyflwynodd raglenni o waith cyhoeddus, gosododd drefn ar y wlad yn dilyn anhrefn ac ansicrwydd y cyfnod ôl-Ryfel, a adferodd freintiau'r Eglwys Gatholig Rufeinig. Dyma'r dyn "a wnaeth y trenau redeg ar amser". Cododd sawl adeilad a chofeb rhwysgfawr yn yr arddull Neo-Glasurol, wedi'u ysbrydoli gan 'fawredd' yr Ymerodraeth Rufeinig. Ond roedd yn llawdrwm iawn ar unrhyw wrthwynebiad gwleidyddol hefyd a dioddefodd nifer o Eidalwyr am eu daliadau dan ei lywodraeth a chreulondeb brwnt y Crysau Duon.
Ceisiodd ymestyn grym yr Eidal a sefydlu ei hawdurdod yn Affrica. Anfonodd fyddin i oresgyn Ethiopia yn 1935. Yn 1936 ffurfiodd gynghrair gydag Adolf Hitler a'r Natsïaid a alwyd yn Echel Rhufain-Berlin. Yn 1939 cipiodd Albania a phan dorrodd yr Ail Ryfel Byd allan cyhoeddodd ryfel yn erbyn Prydain a Ffrainc ym Mehefin 1940. Ond roedd y rhyfel yn drychinebus i'r Eidal a chafwyd colledion mawr yng Libya, Horn Affrica a Gwlad Groeg. Pan oresgynodd y Cynghreiriaid ynys Sisili yn 1943, gorfodwyd Mussolini i ymddeol o rym gan Gyngor Mawr y Blaid Ffasgaidd. Ffoes o Rufain i ogledd yr Eidal lle sefydlodd weriniaeth ffasgaidd newydd dan nawdd yr Almaenwyr. Cafodd ef a'i fistres Clara Petacci eu dal gan y partisanwyr a'u dienyddio. Crogwyd eu cyrff mewn sgwar ym Milan cyn eu claddu. Roedd unbennaeth Mussolini ar ben.
| Swyddi gwleidyddol | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Luigi Facta |
Prif Weinidog yr Eidal 31 Hydref 1922 – 25 Gorffennaf 1943 |
Olynydd: Pietro Badoglio |