Neil Kinnock

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Mae Neil Gordon Kinnock (ganwyd 28 Mawrth 1942 yn Nhredegar), yn wleidydd o Gymro, arweinydd y Blaid Lafur 1983-1992. Mae'n briod i Glenys Kinnock.

Roedd e'n un o'r prif ymgyrchwyr yn erbyn polisi'r Blaid Lafur adeg y refferendwm yn 1979 i gael cynulliad i Gymru. Bu Kinnock yn wrthwynebus i'r iaith Gymraeg ar hyd ei yrfa. Cyhuddodd un o ysgolion Gwynedd o rwystro plentyn rhag mynd i'r toiled am nad oedd yn gallu gofyn yn y Gymraeg. Dangosodd ymchwiliad bod y cyhuddiad yn gwbwl ddi-sail. Cred llawer ei fod wedi bradychu'r glowyr yn ystod y Streic Fawr a arweiniodd at danseilio'r diwydiant glo, gan chwalu nifer fawr o gymunedau.

Er gwaethaf ymrwymiad Kinnock i'r wladwriaeth Brydeinig a'i wrthwynebiad ffyrnig i unrhyw fath o genedlaetholdeb Cymreig, pan oedd yn arweinydd ei blaid cafodd ei ddilorni'n gyson gan y wasg yn Lloegr am ei fod yn Gymro. Y disgrifiad enwocaf ohono gan y wasg tabloid oedd "Welsh windbag".

Roedd yn is-arlywydd Comisiwn Prodi yn Senedd Ewrop o 1999 hyd 2004. Fe'i adnabyddir bellach fel 'Baron Kinnock' ac mae ganddo sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn Llundain.

Llywydd Prifysgol Caerdydd ydy e 'nawr.

Rhagflaenydd:
Harold Finch
Aelod Seneddol dros Bedwellty
19701983
Olynydd:
etholaeth <abolished>
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Islwyn
19831995
Olynydd:
Don Touhig
Arweinwyr y Blaid Lafur

Keir HardieArthur HendersonGeorge Nicoll BarnesJames Ramsay MacDonaldArthur HendersonWilliam AdamsonJohn Robert ClynesJames Ramsay MacDonaldArthur HendersonGeorge LansburyClement AttleeHugh GaitskellGeorge BrownHarold WilsonJames CallaghanMichael FootNeil KinnockJohn SmithMargaret BeckettTony BlairGordon Brown

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol