Andrew Burnham
| Andrew Burnham | |
|
Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd
|
|
| Cyfnod yn y swydd 5 Mehefin 2009 – 12 Mai 2010 |
|
| Prif Weinidog | Gordon Brown |
|---|---|
| Rhagflaenydd | Alan Johnson |
| Olynydd | Andrew Lansley |
|
|
|
| Geni | 7 Ionawr 1970 Lerpwl, Glannau Merswy |
| Etholaeth | Leigh |
| Plaid wleidyddol | Llafur |
| Priod | Marie-France Van Heel |
Aelod Tŷ'r Cyffredin a chyn-Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yw Andrew Murray "Andy" Burnham (ganwyd 7 Ionawr 1970). Mae ef yn Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Leigh ym Manceinion Fwyaf.
Cynnwys |
Bywyd Cynnar [golygu]
Ganwyd Burnham yn Lerpwl; roedd ei dad yn beiriannwr ffôn a'i fam yn dderbynnydd. Cafodd ei fagu yn Culcheth, Warrington sydd yn rhan o'r etholaeth mae ef yn cynrychioli heddiw. Yn Newton-le-Willows derbyniodd ei addysg, yn ysgol uwchradd Catholig St Aelred. Aeth ymlaen i astudio Saesneg yng Ngholeg Fitzwilliam, Caergrawnt, gan ennill MA yn y pwnc. Mae Burnham yn honni iddo ymuno â'r Blaid Lafur yn 1984, pan oedd yn 14 mlwydd oed yn unig, yn ystod streic y glowyr. Ym 1994 cymerodd Burnham swydd fel ymchwiliwr i Tessa Jowell, Aelod Senedd y Deyrnas Unedig a oedd yn weinidog yn yr Adran Iechyd, a pharhaodd gyda'r swydd wedi etholiad 1997. Ym 1998 cymerodd swydd fel ymgynghorwr arbennig i Chris Smith, Ysgrifennydd Gwladol dros Diwylliant, y Cyfryngau a Sbort. Dyma oedd ei swydd olaf cyn cael ei ethol i'r senedd.
Aelod Senedd y DU [golygu]
Bu Burnham yn ymladd am sedd ar etholaeth Leigh, sedd ddiogel y blaid Llafur, yn etholiad cyffredinol 2001 wedi i Lawrence Cunliffe ymddeol. Enillodd Burnham fwyafrif o 16,362, a thraddododd ei araith gyntaf ar 4 Gorffennaf 2001. Rhwng 2001 a 2003 eisteddodd Burnham ar y pwyllgor Iechyd.
Yn y Llwyodraeth [golygu]
Yn 2003 cafodd Burnham y swydd fel ysgrfennydd preifat i'r senedd dros David Blunkett, a oedd yn Ysgrifennydd Cartref. Wedi ymddiswyddiad Blunkett yn 2004 cymerodd yr un swydd gyda Ruth Kelly, a oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Addysg a Sgiliau. Enillodd ddyrchafiad i'r Swyddfa Gartref yn llywodraeth Tony Blair yn 2005 fel Gweinidog Seneddol o dan yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfrifol am gardiau adnabyddiaeth. Yn 2006 symudodd eto i ddod yn Weinidog Gwladol yn yr Adran Iechyd.
Yn y Cabinet [golygu]
Wedi dyrchafiad Gordon Brown i ddod yn Brif Weinidog y DU yn 2007, apwyntiwyd Burnham fel Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys. Bu yng nghanol dadleuon wedi iddo ymosod ar adroddiad y Ceidwadwyr ar yr Economi heb ei ddarllen, ac yna yn cytuno gyda pholisi'r Ceidwadwyr i gefnogi teuluoedd trwy'r system drethi.
Ar ôl 6 mis yn unig yn y swydd fel Prif Ysgrifennydd i'r Trysorlys, symudodd i fod yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Eto, bu Burnham ymysg sawl dadl gan gynnwys pardduo cymeriad Shami Chakrabarti, cyfarwyddwraig grwp hawliau dynol Liberty. I ffwrdd o'r dadleuon, cydnabyddwyd Burnham fel gwleidydd effeithlon. Felly, yn ailgymysgiad 2009 apwyntiwyd Burnham i fod yn Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd. Yn ddiweddar mae Burnham wedi cynnig newidiadau i'r system o gynnal yr henoed ac mae ef yn gyfrifol am ymateb y llywodraeth i ffliw'r moch.
Bywyd Personol [golygu]
Priododd Burnham Marie-France van Heel yn 2000 ar ôl cyfarfod yn y Brifysgol a threulio 11 mlynedd gyda'i gilydd. Mae Marie-France wedi gweithio fel pennaeth marchnata gyda MTV, BSkyB a Littlewoods Gaming, a bu'n gyfarwyddwraig cynllunio gyda WRG. Heddiw mae Marie-France yn gyfarwyddwraig MvH Marketing Ltd. Mae gan y ddau un mab a dwy ferch. Yn y gorffennol roedd Burnham yn Gadeirydd anrhydeddys Clwb Cynghrair Rygbi Leigh. Roedd ef yn gricedwr a phêl-droediwr dawnus fel plentyn, gan gystadlu dros Goleg Fitzwilliam yn y ddwy gamp. Mae ef yn aelod o dîm pêl-droed y blaid Lafur, "Demon Eyes", ac mae wedi cefnogi Everton F.C. ers ei blentyndod.
Dolenni Allanol [golygu]
- (Saesneg) TheyWorkForYou.com - Cernlun fel AS a patrwm pleidleisio yn y Senedd
- (Saesneg) Wefan Andy Burnham
- (Saesneg) Cerlun y Guardian
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Lawrence Cunliffe |
Aelod Seneddol dros Leigh 2001 – presennol |
Olynydd: deiliad |
| Swyddi gwleidyddol | ||
| Rhagflaenydd: Alan Johnson |
Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd 5 Mehefin 2009 – 12 Mai 2010 |
Olynydd: Andrew Lansley |
|
|
|
|---|---|
| Adonis (2009-2010) · Ainsworth (2009-2010) · Alexander · Ashton (2007-2008) · Balls · Benn · Blears (2007-2009) · Bradshaw (2009-2010) · G. Brown · Browne (2007-2008) · Burnham · Byrne (2009-2010) · Cooper (2008-2010) · Darling · Denham · Hain (2007-2008; 2009-2010) · Harman · Hoon (2007-2009) · Hutton (2007-2009) · Johnson · Jowell (2009-2010) · Kelly (2007-2008) · Mandelson (2008-2010) · D. Miliband · E. Miliband · J. Murphy (2008-2010) · P. Murphy (2008-2009) · Purnell (2007-2009) · Royall (2008-2010) · Smith (2008-2009) · Straw · Woodward Hefyd yn mynychu: Beckett (2008-2009) · Byrne (2008-2009) · N. Brown (2008-2010) · Cooper (2007-2008) · Drayson (2008-2010) · Flint (2008) · Grocott (2007-2008) · Healey (2009-2010) · Jowell (2007-2008) · Knight (2009-2010) · Malloch-Brown · McFadden (2009-2010) · McNulty (2008-2009) · Royall (2008) · Scotland (2007-2008) · Os ydyw'n briodol: Flint (2008-2009) · Hughes (2007-2009) · Jowell (2008-2009) · Khan (2009-2010) · Primarolo (2009-2010) · Scotland (2008-2010) · Winterton (2009-2010) |