Banc Lloegr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bank Lloegr, Leeds.

Banc Lloegr yw banc canolog y Deyrnas Unedig. Cafodd ei gwladoli yn 1946.

Sefydlwyd Banc Lloegr fel banc preifat yn 1694 gan grŵp o farsiandïwyr Seisnig yn Llundain i fenthyg arian i'r brenin Wiliam III o Loegr. Gyda sefydlu'r Deyrnas Unedig yn 1801, fel Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, daeth y banc i chwarae rôl fwyfwy allweddol yn economi'r deyrnas ac fel arf ariannol y llywodraeth.

Mae'n cyhoeddi nodau banc y DU (er bod banciau yn yr Alban yn cyhoeddi eu nodau banc eu hunain). Mae'n gweithredu polisi ariannol llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y farchnad agored ac yn gweithredu fel benthycydd pan fo rhaid i'r tai disgownt. Yn ogystal mae'n ceisio rheoli credyd trwy amrywio'r cyfradd llog y mae'n codi ar gyfrifau arbennig y banciau manachol. Yn ychwanegol, mae'n rheoli dyled genedlaethol y DU a'u cronfeydd aur.

Accountancy template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Flag of the United Kingdom.svg Eginyn erthygl sydd uchod am y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato