Keir Hardie

Oddi ar Wicipedia
Keir Hardie
Ganwyd15 Awst 1856 Edit this on Wikidata
Newhouse Edit this on Wikidata
Bu farw26 Medi 1915 Edit this on Wikidata
Glasgow Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, newyddiadurwr, trefnydd undeb, undebwr llafur, glöwr Edit this on Wikidata
SwyddArweinydd y Blaid Lafur, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Anchor Line
  • Ayrshire Miners' Union Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur, Plaid Ryddfrydol, Y Blaid Lafur Annibynnol, Scottish Labour Party Edit this on Wikidata
PlantAgnes Hardie Edit this on Wikidata

Gwleidydd Llafur o'r Alban oedd James Keir Hardie (15 Awst 185626 Medi 1915).

Cafodd ei eni yn Newhouse, Yr Alban, yn 1856. Priododd Lillie Wilson yn 1879. Etholwyd Hardie yn aelod seneddol 'Merthyr Tudful ac Aberdâr', de Cymru yn 1900, gan ddod yn aelod seneddol cyntaf y Blaid Llafur yng Ngwledydd Prydain - carreg filltir bwysig yn hanes y Blaid Lafur. Un aelod seneddol arall a etholwyd y flwyddyn honno, ond o'r fesen fach a blanodd Hardy, tyfodd y blaid yn goeden rymus gan gipio'r awenau yn 1924, yn brif blaid drwy Wledydd Prydain.

Yn 1900, galwodd Hardie nifer o undebau a grwpiau sosialaidd at ei gilydd a chytunodd y cyfarfod i ffurfio Labour Representation Committee, a alwyd yn ddiweddarach yn Blaid Lafur.

Fel Albanwr a sosialydd radicalaidd, roedd Hardie yn cefnogi hunanlywodraeth i'r Alban, Cymru ac Iwerddon. Roedd ganddo gydymdeimlad naturiol â'r Cymry ac roedd yn ddiflewyn ar dafod ei farn ar y modd roedd Cymru yn cael ei thrin dan y drefn Brydeinig. Ym 1911, pan arwisgwyd y tywysog Edward yn Dywysog Cymru mewn sioe rwysgfawr yng Nghaernarfon a drefnwyd gan David Lloyd George, barn Hardie oedd:

Wales is to have an "Investiture" as a reminder that an English king and his robber barons strove for ages to destroy the Welsh people and finally succeeded in robbing them of their lands... and then had the insolence to have his son "invested" in their midst. The ceremony ought to make every Welshman who was patriotic blush with shame. Every flunkey in Wales, Liberal and Tory alike was grovelling on his hands and knees to take part in the ceremony. Funds could be raised for that purpose with ease, but when there was money wanted to gain even a living wage it could only be found with difficulty.[1]

Mab llwyn a pherth ydoedd; Mary Keir, morwyn wrth ei gwaith yn Legbrannock oedd ei fam. Mae'r bwthyn bach lle'i ganwyd yn dal i'w weld hyd heddiw ar y ffordd a elwir yn 'Edinburgh Road' yn Newhouse. Yn ei gân enwog i 'Carlo' (Tywysog Siarl, Lloegr) dywed Dafydd Iwan a'i dafod yn ei foch fod 'Llun Ken Hardie wrth ei wely'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Keir Hardie, Merthyr Pioneer, 1911, dyfynnir gan Gwynfor Evans yn Aros Mae (Abertawe, 1971), tud. 300.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
George Banes
Aelod Seneddol dros Dde West ham
18921895
Olynydd:
George Banes
Rhagflaenydd:
William Pritchard Morgan
Aelod Seneddol dros Ferthyr Tudful
19001915
Olynydd:
Charles Stanton


Baner yr AlbanEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Albanwr neu Albanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.