Brythoniaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tiriogaethau Prydain 500-700
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Yr oedd y Brythoniaid (neu'r Brutaniaid a hefyd Brython fel enw unigol lluosog) yn bobl a'r oedd yn byw yn ynys Prydain i'r de o Ucheldiroedd yr Alban cyn goresgyniad y Rhufeiniaid. Nid un "genedl" oeddynt ond yn hytrach gasgliad o deyrnasoedd annibynnol mawr a bach yn seiliedig ar batrymau llwythol. Mae llawer o ysgrifenwyr wedi anghofio am y Brythoniaid - maen' nhw'n defnyddio termau fel "Celtiaid" neu "Romano-British" gan amlaf.

Erbyn i'r Rhufeiniaid adael yn 410 OC roedd Lladin, iaith y Rhufeiniaid, wedi dylanwadu ar y Frythoneg ac roedd hi'n dechrau newid ei strwythur. Roedd yr iaith yn datblygu a'r ysgogiad i gofnodi gwahanol ddeunydd - ysgrifau am hanes a dirywiad tybiedig y genedl gan y mynach Gildas, canu Taliesin ac Aneirin yn cael eu traddodi ar lafar, a chofnodion a phytiau mewn llawysgrifau eglwysig ac ar feini - yn arwain at gychwyn llenyddiaeth Gymraeg.

Yn llenyddiaeth gynnar Cymru, defnyddir yr enwau "Cymry" a "Brython" (Brythoniaid/Brutaniaid) ochr yn ochr.

Roedd y Cymry'n ymwybodol iawn o'u perthynas â'r Llydäwyr yn Llydaw (fel y tyst yr enw Breton) a'r Cernywiaid yng Nghernyw, ynghyd â'u cyd-Frythoniaid yn yr Hen Ogledd. Dros y môr i Lydaw aeth nifer o'r Brythoniaid, yn ôl chwedl Macsen Wledig a ffynonellau eraill, wedi'r goresgyniad Sacsonaidd yn Lloegr - a dyma le ymsefydlodd nifer o'r seintiau Brythonaidd cynnar.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Geraint Bowen (gol.), Y Gwareiddiad Celtaidd (Caerdydd, 1987). Gweler yn arbennig pennod 4, "Y Brydain Rufeinig" gan D. Ellis Evans a phennod 9, "Yr Ymfudo i Lydaw" gan Léon Fleuriot.
  • Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Leicester, 1982)
  • John Morris, The Age of Arthur (Llundain, 1973)
  • Christopher Snyder, The Britons (Blackwell, 2003)

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]