Deifr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Teyrnas Eingl-Sacsonaidd yn ngogledd-ddwyrain Lloegr yn y 6ed ganrif oedd Deifr (Saesneg: Deira). Ymestynnai o Afon Humber hyd Afon Tees, ac o'r môr hyd ymyl gorllewinol Dyffryn Efrog. Yn ddiweddarach fe'i cyfynwyd a Brynaich (Bernicia) i'r gogledd i ffurfio teyrnas Northumbria.

Mae enw'r deyrnas o darddiad Brythoneg, efallai'n golygu "dyfroedd". Y brenin Eingl cyntaf a gofnodir yw Ælla, y dywedir iddo gipio'r deyrnas oddi ar y Brythoniaid yn 581. Wedi ei farwolaeth ef, cipiwyd Deifr gan Æthelfrith, brenin Bernicia, ac unodd ef y ddwy deyrnas. Yn ddiweddarach daeth mab Ælla, Edwin, yn frenin y ddwy deyrnas yn 616 neu 617, a theyrnasodd hyd 633.

Deifr oedd gelyn teyrnas Gododdin yn yr ymladd a ddisgrifir yn Y Gododdin, rywbryd o gwmpas y flwyddyn 600.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Geake, Helen & Joanthan Kenny (gol.) (2000). Early Deira: Archaeological studies of the East Riding in the fourth to ninth centuries AD. Rhydychen: Oxbow. ISBN 1-900188-90-2
  • Higham, N.J. (1993). The Kingdom of Northumbria AD 350-1100. Stroud: Sutton. ISBN 0-86299-730-5