Afon Tees

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhaeadr High Force ar Afon Tees

Afon yng ngogledd Lloegr yw Afon Tees. Mae'n tarddu ar lechwedd ddwyreiniol bryn Cross Fell yn y Pennines, ac yn llifo ar gwrs i gyfeiriad y dwyrain am 85 milltir (132 km) i aberu ym Môr y Gogledd, rhwng Hartlepool a Redcar. Mae ei dalgylch yn cynnwys 708 milltir sgwar (1834 km sgwar), ond ni cheir llednentydd sylweddol. Yn yr Oesoedd Canol Cynnar nodai'r afon ffin teyrnas Deifr. Yn fwy diweddar, nodai'r ffin rhwng hen siroedd Durham ac Efrog. Yn ei rhan isaf heddiw mae'n ffurfio'r ffin rhwng swyddi seremonïol Swydd Durham a Gogledd Swydd Efrog.


Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato