Pennines

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Delwedd lloeren sy'n dangos lleoliad y Pennines

Cadwyn o fryniau yng ngogledd Lloegr yw'r Pennines neur' Penwynion.[1] Dywedir yn aml eu bod yn ffurfio "asgwrn cefn Lloegr", gan ffurfio cadwyn ddidor o fryniau sy'n ymestyn o Ardal y Peak yn Swydd Derby, trwy'r Yorkshire Dales, rhannau o Fanceinion Fwyaf, Rhosdiroedd Gorllewin Pennine yn Swydd Gaerhirfryn a bryniau Cumbria i Fryniau Cheviot ar y ffin rhwng Lloegr a'r Alban. I'r gogledd o Fwlch Aire mae'r Pennines yn ymrannu gyda changen yn ymestyn i gyfeiriad y gorllewin i Swydd Gaerhirfryn a Fforest Bowland, ar ymyl Mynyddoedd Cumbria (Ardal y Llynnoedd) a changen arall i Fryniau Rossendale. Ffurfia'r Pennines talgylch dŵr pwysig gyda nifer o gronfeydd dŵr ym mhennau'r prif gymoedd. Mae Gogledd y Pennines a Nidderdale yn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, a gorwedd rhannau o'r Pennines ym Mharc Cenedlaethol Ardal y Peak, Parc Cenedlaethol yr Yorkshire Dales a Parc Cenedlaethol Northumberland. Rhed Llwybr y Pennines (Pennine Way) ar hyd y gadwyn. Eu hyd yw tua 250 milltir (402 km). Cross Fell, Cumbria, yw'r copa uchaf (2930').

Bu ardal y Pennines yn rhan o diriogaeth yr Hen Ogledd a cheir nifer o enwau lleoedd sy'n dyst i fodolaeth y Frythoneg yno, e.e. Penrith, Cumbria.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Geiriadur yr Academi, t. 1015.


Flag of England.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato