Bryniau Cheviot

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bryniau Cheviot: golygfa ger Shillhope Law.

Mae Bryniau Cheviot (Saesneg: Cheviot Hills neu'r Cheviots) yn fryniau am y ffin rhwng Lloegr a'r Alban, yn siroedd Northumberland ar yr ochr Seisnig a Gororau'r Alban ar yr ochr Albanaidd, a ffurfiwyd gan folcanigrwydd cynt. The Cheviot ydy'r copa uchaf ohonyn nhw, 815 medr uwchben lefel y môr. Rhed llwybr y Pennine Way ar hyd rhan o'r grib. Mae rhaeadr Linhope Spout yn atyniad ymwelwyr yn yr ardal.

I'r de o'r ffin rhwng yr Alban a Lloegr, mae'r bryniau yn rhan o Barc Cenedlaethol Northumberland.


Flag of Scotland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Flag of Northumberland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Northumberland. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato