Yr Hen Ogledd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o'r Hen Ogledd

Mae'r term yr Hen Ogledd yn cyfeirio at diriogaeth teyrnasoedd Brythonaidd yr ardal sydd erbyn heddiw yn rhan o ogledd Lloegr a de'r Alban yn y cyfnod yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid, sef o tua'r bumed i'r seithfed ganrif. O'r Hen Ogledd daeth y llenyddiaeth Gymraeg gynharaf, cerddi arwrol gan feirdd yr Hengerdd am y brwydro rhwng teyrnasoedd y Brythoniaid a llwythau'r Eingl-Sacsoniaid oedd yn ceisio goresgyn y Brythoniaid a meddianu eu tir. O'r Hen Ogledd daeth Cunedda Wledig a'i ddilynwyr hefyd, sefydlwyr teyrnas Gwynedd.

Gellir diffinio'r Hen Ogledd fel yr Alban i'r de o linell ddychmygol rhwng cyffiniau Stirling a Loch Lomond a'r siroedd Seisnig presennol Cumbria, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Durham, Northumberland, Swydd Efrog a Humberside. Mae hyn yn diriogaeth ehangach nag yw Cymru heddiw. Mae'n bosibl fod teyrnasoedd yr Hen Ogledd (trwy Elfed) yn ymestyn mor bell i'r de ag ardal Sir Gaer heddiw. Cafodd teyrnasoedd yr Hen Ogledd eu gwahanu oddi wrth Gymru gyda Brwydr Caer yn 615. Ffurf ar y Frythoneg a droes yn Gymraeg Cynnar oedd iaith trigolion yr Hen Ogledd: Cymbreg yw'r enw a ddefnyddir weithiau i'w disgrifio a cheir olion ohoni mewn enwau lleoedd yn Cumbria.

'Gwŷr y Gogledd' yw'r enw traddodiadol am bobl yr Hen Ogledd. Roeddent yn ddisgynyddion i lwythau Celtaidd y Votadini, Selgovai, Novantai a'r Damnonii (yn ne'r Alban) a'r Brigantes i'r de o Fur Hadrian. Lleolir nifer o draddodiadau a chymeriadau sydd i'w cael yn llenyddiaeth Cymraeg Canol yn yr Hen Ogledd. Yn eu plith y mae arwyr dwy o'r Tair Rhamant, sef Owain ab Urien (Iarlles y Ffynnon) a Peredur fab Efrog.

Teyrnasoedd a lleoedd[golygu]

Tiriogaethau Prydain 500-700

Arweinwyr, beirdd a chymeriadau eraill[golygu]

Gelynion a chyngreiriaid Gwŷr y Gogledd[golygu]

Eingl-Sacsoniaid y gogledd[golygu]

Gwyddelod a Phictiaid[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Rachel Bromwich a R. Brinley Jones (gol.), Astudiaethau ar yr Hengerdd (Caerdydd, 1978)
  • K. H. Jackson, Language and History in Early Britain (Caeredin, 1953)
  • Ifor Williams (gol.), Canu Aneirin (Caerdydd, 1938; argraffiad newydd, 1961)
  • eto (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960)
  • eto, The Beginnings of Welsh Poetry (Caerdydd, 1972)