Dumbarton

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Craig Dumbarton o'r de. Roedd caer Alt Clut ar y copa ar y dde.

Tref ar lan ogleddol Afon Clyde yn yr Alban yw Dumbarton (Gaeleg: Dùn Breatainn,, "Caer y Brythoniaid"). Hi yw canolfan weinyddol Gorllewin Swydd Dunbarton. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 20,550. Ar un adeg roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant pwysig iawn yma; yn Dumbarton er enghraifft yr adeiladwyd y Cutty Sark, sydd yn awr yn Greenwich, Llundain. Yn ddiweddarach daeth cynhyrchu chwisgi yn bwysig. Erbyn hyn, mae llawer o'r boblogaeth yn gweithio yn Glasgow yr ochr draw i'r afon.

Mae Caerdydd 505 km i ffwrdd o Dumbarton ac mae Llundain yn 573.3 km. Y ddinas agosaf ydy Glasgow sy'n 21.4 km i ffwrdd.

Nodwedd fwyaf trawiadol y dref yw Castell Dumbarton, ar Graig Dumbarton uwchben y dref. Yma yn y cyfnod wedi ymadawiad y Rhufeiniaid yr oedd caer Alt Clut (Allt Clud mewn Cymraeg Diweddar), prif lys teyrnas Frythonig Ystrad Clud yn yr Hen Ogledd.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu]

  • Castell Dumbarton
  • Dumbarton Rock
  • Tŷ Overtoun

Enwogion[golygu]

Flag of Scotland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato