Galloway
- Gweler hefyd Galloway (gwahaniaethu).
Rhanbarth yn yr Alban yw Galloway (Gaeleg: Gall-Ghaidhealaibh). Mae'n gorwedd yn ne-orllewin yr Alban ac mae'n cynnwys cyn-siroedd Wigtown (Gorllewin Galloway) a Kirkcudbright (Dwyrain Galloway). Heddiw mae'n rhan o Dumfries a Galloway.
Gorwedd Môr Iwerddon i'r gorllewin a'r de, Bryniau Galloway i'r gogledd, a'r Afon Nith i'r dwyrain; nodir yr hen ffin rhwng siroedd Kirkcudbright a Wigtown gan yr Afon Cree. Mae'n ardal ynysig felly, ddiarffordd braidd, ac mae ei hanes yn adlewyrchu hynny.
Ychydig o bobl sy'n byw yn y bryniau sy'n ffurfio ardal fynyddig anial yn y gogledd.
Hanes[golygu]
Ceir nifer o safleoedd cynhanesyddol yno, e.e. Meini Hirion Drumtroddan gyda'u cerfiadau cwpan-a-chylch, Cylch Cerrig Torhousekie, a Cairn Holy (siambr gladdu Neolithig). Yn Oes yr Haearn roedd llwyth Celtaidd y Novantae yn byw yno. Yng nghyfnod y Rhufeiniaid sefydlodd Sant Ninian eglwys yn Whithorn a arosodd yn ganolfan pererindod hyd y Diwygiad Protestannaidd. Yn y gorllewin roedd Rerigonium, a gofnodir fel prifddinas y Novantae gan Ptolemy ac sydd yn lleoliad posibl i'r Pen Rhionydd y cyfeirir ato fel lleoliad un o lysoedd Arthur yn Nhrioedd Ynys Prydain.
Daeth yr ardal yn rhan o deyrnas Frythonaidd Rheged yn y cyfnod ôl-Rufeinig: ceir adlais o hynny yn yr enw lle Dunragit (Brythoneg: *Dun Rheged). Ar ôl cwymp Rheged bu ym meddiant Brynaich am gyfnod byr ond erbyn tua dechrau'r 9fed ganrif roedd yn deyrnas fechan Nors-Aelig: cyrhaeddodd ei phenllanw dan y brenin Fergus o Galloway. Yn 1234 daeth yn rhan o Deyrnas yr Alban. Arosodd yn ardal Gaeleg ei hiaith hyd y 18fed ganrif.
Heddiw mae porthladdoedd fferi yn Stranraer a Cairnryan yn cysylltu Galloway ac Iwerddon.
Llyfrau[golygu]
- Richard Oram, The Lordship of Galloway