Cyndeyrn
Sant a gysylltir a teyrnas Frythonig Ystrad Clud yn yr Hen Ogledd oedd Cyndeyrn (Brythoneg: *Contigernos; Lladin: Cont[h]igirni[1]; Llydaweg a Saesneg: Kentigern) neu Mungo (tua 518 - 13 Ionawr 603). Cyfeirir ato hefyd fel Cyndeyrn Garthwys yn y traddodiad Cymreig.[2]
Yn ôl traddodiad, roedd Cyndeyrn yn fab gordderch i Owain ab Urien ac yn ŵyr i Urien Rheged. Roedd Rhydderch Hael, brenin Ystrad Clud, yn noddwr iddo. Ef oedd sylfaenydd Glasgow. Ceir manylion amdano ym Muchedd Sant Cyndeyrn, a ysgrifenwyd ar gyfer Jocelin o Furness, esgob Glasgow, yn yr Oesoedd Canol. Alltudiwyd Cyndeyrn o ardal Ystrad Clud tua 545, a ffodd i ogledd-ddwyrain Cymru lle sefydlodd glas yn Llanelwy. Dywedir mai adeilad pren oedd y clas. Yno, bu gan y sant 965 o ddisgyblion, ac yn eu plith Asaph. Dychwelodd Cyndeyrn i Ystrad Clud, ar ôl Brwydr Arfderydd yn 573, a chysegrwyd Asaph yn esgob i'w olynu.
Cyfeirir at Gyndeyrn Garthwys mewn un o Drioedd Ynys Prydain fel esgob dan Arthur ym Mhen Rhionydd yn yr Hen Ogledd.[3]
Ef yw nawdd sant Glasgow, a chysegrwyd yr Eglwys Gadeiriol iddo. Ar arfbais y ddinas, ceir llun y sant ac islaw iddo ceir coeden, aderyn, cloch a physgodyn, yn coffáu pedwar gwyrth a gyflawnwyd ganddo.
Cyfeiriadau [golygu]
|
|
|
|---|---|
| Teyrnasoedd: |
Aeron • Dál Riata • Elmet • Gododdin • Manaw Gododdin • Rheged • Ystrad Clud |
| Pobl: |
Aneirin • Brân Galed • Clydno Eidyn • Coel Hen • Cunedda • Cyndeyrn • Cynfarch • Dyfnwal Frych • Dygynnelw • Elidir Lydanwyn • Eliffer • Elffin ap Gwyddno • Fflamddwyn • Gwallog • Gwenddolau • Llywarch Hen • Mynyddog Mwynfawr • Myrddin Wyllt • Nudd Hael • Owain ab Urien • Pabo Post Prydain • Pasgen fab Urien • Rhiwallon fab Urien • Rhun fab Urien • Rhydderch Hael • Sawyl Ben Uchel • Talhaearn • Taliesin • Tristfardd • Tudwal Tudclyd • Urien Rheged |
| Lleoedd: |
Arfderydd • Argoed Llwyfain • Alclut • Catraeth • Caer Liwelydd • Coed Celyddon • Din Eidyn • Dunragit • Pen Rhionydd • Ynys Metcaud |
| Gweler hefyd: | |