Talhaearn Tad Awen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Talhaearn Tad Awen (fl. 6ed ganrif) oedd un o'r beirdd cynharaf yn y Traddodiad Barddol Cymraeg. Fe'i cysylltir â'r Hen Ogledd a'r Hengerdd. Roedd yn gyfoeswr i Aneirin a Taliesin.

Tystiolaeth[golygu]

Ceir y cyfeiriad cynharaf ato gan Nennius yn yr Historia Brittonum ar ôl nodyn am Ida, brenin Northumbria (547-579):

'Ar y pryd, yn yr amser hwnnw ymladdai Dutigirn (=Eudeyrn) yn wrol yn erbyn cenedl yr Eingl. Yr un adeg bu Talhaearn Tad Awen yn enwog mewn barddoniaeth, a Neirin (=Aneirin) a Thaliesin a Blwchfardd a Chian (a elwir Gwenith Gwawd) ynghyd yn yr un amser a fuant enwog mewn barddoniaeth Gymraeg.'[1]

Cyfeirir at Dalhaearn mewn cerdd o'r enw 'Angar Cyfyndawd' a geir yn Llyfr Taliesin. Mae'n perthyn i gylch o gerddi am y Taliesin chwedlonol. Dywedir ei fod 'mwyaf y sywedydd' ("y mwyaf o'r doethion").[2]

Enwir Talhaearn yn un o Drioedd Ynys Brydain. Dywedir fod Talhaearn yn derbyn "gant o fuchod bob dydd Sadwrn" gan Aneirin (fel tal neu wobr efallai). Awgrymir y posiblrwydd fod chwedl goll am ymryson neu gydymgais rhwng Talhaearn ac Aneirin.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin, t. ix.
  2. Rachel Bromwich, Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978; arg. new, 1991).
  3. Rachel Bromwich, Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978; arg. new, 1991).

Gweler hefyd[golygu]