Taliesin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Copi o Lyfr Taliesin, Ffolio 13, 1868
Mae hon yn erthygl am y bardd hanesyddol. Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Taliesin (gwahaniaethu).

Yr oedd Taliesin yn un o'r beirdd cynharaf yn yr iaith Gymraeg, a'r bardd Cymraeg cynharaf y ceir ei destunau ar glawr heddiw. Roedd Taliesin yn fardd llys i ddau o frenhinoedd y Brythoniaid: Cynan Garwyn o Bowys ac Urien Rheged, brenin Rheged yn yr Hen Ogledd. Bu fyw yn ail hanner y 6ed ganrif ac roedd yn perthyn i'r genhedlaeth ar ôl Aneirin. Fe'i crybwyllir yn y llyfr Historia Brittonum gan Nennius ynghyd ag Aneirin, Cian, Blwchfardd a Thalhaearn Tad Awen, fel bardd a ganai yn yr Hen Ogledd. Mae cerddi'r Taliesin hanesyddol wedi goroesi yn Llyfr Taliesin, llawysgrif o ddechrau'r 13eg ganrif. Maent yn perthyn i'r Hengerdd. Yn Llyfr Taliesin a llawysgrifau eraill ceir nifer o gerddi eraill yn ogystal, ar destunau amrywiol, sydd yn ddiweddarach ond a dadogir arno. Yr enw traddodiadol ar y bardd chwedlonol, cyfansoddwr tybiedig y cerddi chwedlonol amdano a'r daroganau yn ei enw, yw Taliesin Ben Beirdd, ond nid oedd Cymry'r Oesoedd Canol yn gwahaniaethu rhwng y bardd hanesyddol ac arwr y chwedlau.

Y Taliesin hanesyddol[golygu]

Mae'r ychydig a wyddom am hanes y bardd yn deillio o'r wybodaeth a geir yn nhestunau Canu Taliesin, a'r cyfeiriad ato yn llyfr Nennius. Ceir nifer o gyfeiriadau ato yng ngwaith Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr, ond nid ydynt llawer o gymorth fel tystiolaeth hanesyddol.

Dyma dystiolaeth Nennius yn yr Historia Brittonum ar ôl nodyn am Ida, brenin Northumbria (547-579):

'Ar y pryd, yn yr amser hwnnw ymladdai Dutigirn (=Eudeyrn) yn wrol yn erbyn cenedl yr Eingl. Yr un adeg bu Talhaearn Tad Awen yn enwog mewn barddoniaeth, a Neirin (=Aneirin) a Thaliesin a Blwchfardd a Chian (a elwir Gwenith Gwawd) ynghyd yn yr un amser a fuant enwog mewn barddoniaeth Gymraeg.'[1]

Mae gennym ddeuddeg testun a dderbynnir yn waith dilys Taliesin. Mae un ohonynt yn gerdd i'r brenin Cynan Garwyn o deyrnas Powys, sy'n awgrymu fod Taliesin wedi bod ym Mhowys ar un achlysur o leiaf. Mae'r gweddill yn gerddi i dri phennaeth o'r Hen Ogledd, sef Urien Rheged a'i fab Owain, o deyrnas Rheged, a Gwallawg, brenin Elfed (Elvet), un o dri brenin a ymladdodd gyda Urien yn erbyn Hussa mab Ida o Northumbria.

Damcaniaeth Ifor Williams[2] am hanes Taliesin oedd iddo ddechrau ei yrfa yng Nghymru trwy ganu i Gynan Garwyn ym Mhowys. Roedd Powys ar y pryd yn deyrnas ehangach na'r deyrnas ganoloesol ac ymestynnai i'r dwyrain i rannau o ganolbarth Lloegr heddiw, gan ffinio â hen deyrnas Frythonaidd Elfed ac, efallai, â theyrnas Rheged ei hun. Oddi yno aeth i'r Hen Ogledd, wrth i fri Urien Rheged dyfu, i fod yn fardd llys iddo. Mae Ifor Williams yn dangos fod llinell mewn cerdd i Urien - 'kyn ny bwyf teu' ("er nad wyf o'r un wlad â thi") - yn profi nad oedd Taliesin yn frodor o Reged. Ymddengys iddo ymweld â llysoedd eraill a chanu i bennaethiaid eraill fel Gwallawg yn Elfed a bod Urien wedi digio wrtho am hynny. Canodd Taliesin gerdd dadolwch iddo yn iawn am hynny. Ni wyddom sut y treuliodd ei flynyddoedd olaf.

Ceir traddodiad poblogaidd yng Nghymru sy'n cysylltu Taliesin a Llyn Geirionnydd, Gwynedd, ond mae'n draddodiad diweddar a dyfodd o gamddarllen llinell yn y gerdd 'Anrheg Urien':

'Mineu Dalyessin o iawn llyn gerionnyd'
(a ddeallwyd fel 'Minnau, Taliesin, o lan Llyn Geirionnydd')

Ond dangosodd Ifor Williams mai iawn-llin ("gwir linach") yw'r darlleniad (mae geirionyd yn hen ffurf ar ceraint).[3]

Tad y Traddodiad Barddol[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Taliesin Ben Beirdd

Cofnododd Elis Gruffydd fersiwn o'r chwedl Hanes Taliesin yn y 16eg ganrif, a'r hanes yma a fersiynau diweddarach ohono, ynghyd â'r canu darogan a cherddi chwedlonol canoloesol, sydd yn sylfaen i ddelw Taliesin yn y diwylliant a dychymyg poblogaidd hyd heddiw, fel "Taliesin" neu dan yr enw traddodiadol Taliesin Ben Beirdd. Yn y traddodiad barddol Cymraeg, roedd Taliesin yn cael ei ystyried gan y beirdd fel Tad neu sylfaenydd y Traddodiad hwnnw ac roedd y chwedlau amdano yn gyfarwydd i bawb.

Dosbarthiad ar y cerddi[golygu]

Priodoloir tua 270 o gerddi i Daliesin. Fe’u diogelir mewn 259 llawysgrif. Gellid eu dosbarthu fel hyn:

  • Y cerddi yn Llyfr Taliesin a briodolwyd gan Syr Ifor Williams i’r Taliesin hanesyddol, ac a olygwyd ganddo yn y gyfrol Canu Taliesin (1960).
  • Cerddi eraill yn Llyfr Taliesin, o natur chwedlonol a chrefyddol yn bennaf.
  • Cyfres o gerddi darogan yn Llyfr Coch Hergest a briodolir i Daliesin.
  • 'Canu i Swyddogion Llys y Brenin'. Cerddi byrion sy’n perthyn (o ran mydr a naws) i’r un haen o ganu yn y traddodiad barddol â rhai o gerddi Llyfr Taliesin ond sydd heb gysylltiad amlwg â’r Taliesin chwedlonol.
  • Cerddi crefyddol, cyngor, gwirebau a diarhebion, a thrioedd a briodolir i Daliesin ond sydd heb gysylltiad pendant â chylch y Taliesin chwedlonol.
  • Cerddi eraill a gysylltir â Thaliesin. Dwy gerdd ymddiddan yn Llyfr Du Caerfyrddin, yn cynnwys 'Ymddiddan Myrddin a Thaliesin' a 'Cantre’r Gwaelod', sy'n gerdd ddiweddar (o’r ail ganrif ar bymtheg efallai).
  • Tua 175 o gerddi eraill sydd yn dwyn rhyw berthynas â ffigur y Taliesin chwedlonol, neu’n ddaroganau a briodolir iddo. Dyma'r cerddi a gysylltir yn bennaf ag enw Taliesin Ben Beirdd.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Patrick K. Ford (gol.), Ystoria Taliesin (Caerdydd, 1992)
  • John Morris-Jones, 'Taliesin', Y Cymmrodor xxviii, 1918. Rhifyn arbennig o'r cylchgrawn ar gyfer astudiaeth ddylanwadol John Morris-Jones, a osododd astudiaethau ar yr Hengerdd ar seiliau cadarn.
  • Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1959; sawl argraffiad arall wedi hynny). Y golygiad safonol o destunau hanesyddol Taliesin.
  • Ifor Williams, Chwedl Taliesin (Caerdydd, 1957)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin, t. ix.
  2. Ifor Williams, op. cit., tt. xxxix-xlii.
  3. Ifor Williams, op. cit., t. xlii.

Gweler hefyd[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: