Cynan Garwyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mae hyn yn erthygl am y brenin o'r 6ed ganrif: am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Cynan.

Un o frenhinoedd cynnar teyrnas Powys oedd Cynan Garwyn (fl. ail hanner y 6ed ganrif). Roedd yn fab i Frochwel Ysgithrog a thad i Selyf ap Cynan, a laddwyd ym Mrwydr Caer (tua 615).[1] Yr adeg honno yr oedd ffiniau Powys yn ymestyn i'r dwyrain, dros Glawdd Offa heddiw, ac yn cynnwys rhannau sylweddol o'r Gororau.

Hanes[golygu]

Canodd y bardd Taliesin awdl foliant i Gynan a elwir Trawsganu Cynan Garwyn. Os dilys yr awduraeth, dyma'r gerdd hynaf sydd ar gael yn yr iaith Gymraeg. Yn y gerdd molir Cynan fel rhyfelwr dewr a ffyrnig yn ymosod ar deyrnasoedd Brythonaidd eraill, gan gynnwys Cernyw.[1]

Cyfeirir at gyrch arfaethedig ar Forgannwg gan Gynan ym Muchedd Cadog. Ataliodd y sant Cadog y brenin rhyfelgar. Gellid cynnig dyddiad o tua 577 i'r digwyddiad. Yn ddiweddarach ceir cyfeiriadau at Gynan yn Nhrioedd Ynys Prydain. Yn ôl Buchedd Beuno rhoddodd Cynan anrhegion hael i sant Beuno.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960). Tud. xvii-xxiii.