Eiludd Powys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o frenhinoedd cynnar Powys oedd Eiludd Powys (fl. c. 630). Fel gyda llawer o deyrnoedd Powys yn y cyfnod yma, ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael amdano.

Yn ôl un ddamcaniaeth, roedd Eiludd, a elwid hefyd yn Eluadd ap Glast, yn frenin Dogfeiling, teyrnas gynnar yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Credir iddo feddiannu Powys a diorseddu'r brenin ieuanc Manwgan ap Selyf. Yn ôl y syniad yma, efallai iddo gael ei ladd ym Mrwydr Maes Cogwy yn 642.

Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.