Beuno

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr.

Sant Cymreig oedd Beuno (bu farw c.642). Mae'n fwyaf adnabyddus fel sylfaenydd clas Clynnog Fawr yng Ngwynedd.

Bywgraffiad[golygu]

Mae'r unig fuchedd sydd ar gael yn hwyr, yn dyddio o tua 1350, yn Llyfr Ancr Llanddewi Brefi. Dywedir ei fod yn perthyn i deulu brenhinol Morgannwg, ac iddo gael ei eni ym Mhowys, ar lan Afon Hafren. Cafodd ei addysgu yng Nghaerwent cyn ymsefydlu yn Aberriw. Yn ddiweddarach bu yng Ngwyddelwern a Threffynnon, cyn ymsefydlu yng Nglynnog. Dywedir i'r tir i sefydlu'r clas yng Nghlynnog gael ei roi gan bennaeth o'r enw Gwyddeint, cefnder i frenin Gwynedd, Cadwallon ap Cadfan, oedd yn teyrnasu rhwng tua 620 a 633.

Dywedir fod y santes Gwenffrewi yn nith iddo. Yn ôl y traddodiad, syrthiodd pendefig ieuanc o'r enw Caradog mewn cariad a hi, a phan wrthododd hi ef, torrodd ei phen a chleddyf. Gosododd Beuno ei phen yn ôl ar ei hysgwyddau a'i hadfywio.

Eglwysi[golygu]

Mae'r eglwysi a gysegrwyd i Sant Beuno yn cynnwys Aberffraw a Trefdraeth ar Ynys Môn a Chlynnog, Penmorfa, Carnguwch, Pistyll, a Botwnnog yng Ngwynedd. Ym Mhowys mae Llanycil, Gwyddelwern, Aberriw a Betws Cydewain wedi eu cysegru iddo.

Mae ei ddydd gŵyl ar 21 Ebrill.

Cyfeiriadau[golygu]