Gwireb

Oddi ar Wicipedia
Erthygl am y defnydd llenyddol o'r gair 'gwireb' yw hon; am y defnydd mathemategol, gweler Gwireb (mathemateg).

Gosodiad yn cynnwys gwir cyffredinol, wedi'i fynegi'n gwta, yw gwireb.[1] Mae'r wireb yn perthyn yn agos i'r ddihareb ond er bod diarebion yn cynnwys elfen wirebol yn aml nid yw pob gwireb yn ddihareb. Gwahaniaeth arall rhwng y wireb a'r ddihareb yw bod y wireb yn greadigaeth ymwybodol lenyddol gan amlaf tra bod y ddihareb, fel rheol, yn tarddu o'r diwylliant poblogaidd. Ond gellir cymhwyso'r term 'gwireb' i gynnwys unrhyw osodiad o'r gwir cyffredinol, mewn unrhyw faes.

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Fel y diarhebion, mae gan y wireb hanes hir mewn llenyddiaeth. Gelwir barddoniaeth sy'n cynnwys elfen amlwg o wireb yn 'canu gwirebol'. Roedd y genre yma o ganu yn boblogaidd yn yr Oesoedd Canol ac fe'i ceir gyda chanu natur yn aml. Un o'r casgliadau mwyaf adnabyddus yw Englynion y Clyweit ('Englynion y Clywaid'), casgliad o englynion gwirebol a gyfansoddwyd tua diwedd y 12g neu ddechrau'r 13eg, yn ôl Ifor Williams. Enghraifft arall o ganu gwirebol yn y Gymraeg yw'r cyfresi o englynion 'Eiry mynydd' ('Eira mynydd'), e.e. y rhai a geir yn y gerdd 'Penyd Llywelyn a Gwrnerth':

Eiry mynydd, gorwyn bro,
Dedwydd pawb wrth a'i llocho;
Creawdr Nef a'th diango.[2]

Mae canu natur yn elfen amlwg yn y canu gwirebol; elfen amlwg arall yw'r elfen o brofiad dynol. Dyma ran o gyfres hir sy'n cynnwys y ddwy elfen trwy ei gilydd a adnabyddir fel 'Y Gnodau' am fod pob llinell bron yn dechrau gyda'r ffurf ferfol gnawd ('arferol yw'):

Gnawd gwynt o'r gogledd; gnawd rhianedd chweg;
Gnawd gŵr teg yng Ngwynedd;
Gnawd i dëyrn arlwy gwledd;
Gnawd gwedi llyn lledfrydedd.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Morgan D. Jones. Termau Iaith a Llên (Gwasg Gomer, 1972), tud. 77.
  2. Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Cyhoeddiadau Barddas, 1994), tud. 341.
  3. Dyfynnir gan Gwyn Thomas yn Y Traddodiad Barddol (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976), tud. 101. Nodiadau: Chweg = 'teg', llyn = 'diod (gadarn)', lledfrydedd = 'tristwch'.