Rheged

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rheged a'r teyrnasoedd o'i chwmpas
Tiriogaethau Prydain 500-700

Roedd Rheged yn deyrnas Frythonig yn Yr Hen Ogledd oddeutu’r 6ed ganrif. Ymddengys mai Caerliwelydd oedd canolfan y deyrnas, ac roedd yn ymestyn dros ran sylweddol o’r hyn sy’n awr yn ogledd-orllewin Lloegr ac efallai dros ran o dde-orllewin Yr Alban.

Mae cyfeiriadau at Rheged ym marddoniaeth Taliesin, sy’n cynnwys cerddi i frenin Rheged, Urien Rheged, ac i’w fab Owain fab Urien. Disgrifir Urien fel arglwydd Llwyfenydd (dyffryn Afon Lyvennet heddiw), ac hefyd fel arglwydd Catraeth.

Roedd brenhinoedd Rheged yn cynnwys:

Yn ôl yr achau traddodiadol, roedd llinach arall yn disgyn o frawd Cynfarch, Elidir Lydanwyn; ei fab ef oedd Llywarch Hen.

Wedi i deynasoedd Eingl-Sacsoniaid Brynaich a Deifr uno I ddod yn deyrnas Northumbria, meddiannwyd Rheged gan Northumbria rywbryd cyn 730. Cofnodir priodas rhwng Oswy, brenin Northumbria a thywysoges o Rheged tua 638, ac efallai iddo etifeddu’r deyrnas o ganlyniad i’r briodas yma.

Heddiw[golygu]

Rhoddwyd enw’r deyrnas i’r Rheged Discovery Centre gerllaw Penrith, Cumbria. Mae’r enw Cumbria ei hun yn dod o’r un gwreiddyn â Chymry.

Gweler hefyd[golygu]

Y fynedfa i'r 'Rheged Discovery Centre' ger Penrith.