Pictiaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Telynor ar faen cerfiedig Dupplin, tua OC 800
Atgynhyrchiad o grannog Pictaidd (amddiffynfa ar ynys artiffisial) yn Loch Tay, yr Alban

Pobloedd hynafol a drigai yng ngogledd yr Alban oedd y Pictiaid. Mae tarddiad yr enw arnynt yn ansicr. Mae'r gair Lladin Picti ("pobl paentiedig") yn cyfeirio at eu harfer o liwio a thatwio eu cyrff. Cyffelyb eu hystyr yw'r enwau ar eu gwlad yn Gymraeg - Prydyn - a Gwyddeleg, Cruithin. Mae'n bosibl hefyd fod cysylltiad ag enw Galeg llwyth Galaidd y Pictavi (neu'r Pictones). Picteg oedd iaith y Pictiaid ac mae ei pherthynas â'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd a Cheltaidd yn ansicr. Un hen enw ar eu gwlad oedd Pictavia. Ymddengys mai pobl gyn-Geltaidd oeddyn nhw yn wreiddiol. Yr enw Cymraeg Canol arnyn nhw oedd Gwyddyl Ffichti, yn arbennig yn y Brutiau a'r Canu Darogan. Mewn un o Drioedd Ynys Prydain mae'r Gwyddyl Ffichti yn un o "Dair Gormes a ddaeth i'r ynys hon ac nid aeth yr un drachefn", ynghyd â'r Coraniaid a'r Saeson (Rachel Bromwich, gol., Trioedd Ynys Prydein, triawd 36).

Hanes cynnar[golygu]

Ceir y cyfeiriadau hanesyddol cynharaf at y Pictiaid gyda'r Scotti yn y 3edd ganrif pan ymosodasant ar diriogaeth Rufeinig yn ardal Mur Hadrian. Creuwyd teyrnas ganddyn nhw i'r gogledd o Foryd Forth. Ar adegau roedden nhw'n brwydro yn erbyn Manaw Gododdin ac Ystrad Clud, y ddwy deyrnas mwyaf gogleddol yn yr Hen Ogledd, ond ar adegau eraill roedd perthynas da rhyngddyn nhw a Gwŷr y Gogledd. Yn y 6ed ganrif aeth Sant Columba i genhadu iddyn nhw, gyda chaniatad eu brenin. Unwyd teyrnasoedd y Pictiaid a'r Scotti gan Kenneth mac Alpin tua 850 i greu teyrnas yr Alban.

Teyrnasoedd cynnar[golygu]

Mae hanes cynnar gwlad y Picitiaid yn aneglur, fel y gwelir. Yn ddiweddarach ceir tystiolaeth fod sawl brenin yn rheoli teyrnasoedd annibynnol a bod un neu ragor ohonyn nhw wedi llwyddo ar adegau i fod yn fath o uchel-frenhinoedd ar y lleill. Mae'n bosibl dadlau dros fodolaeth saith teyrnas ymhlith y Pictiaid, gan ddilyn tystiolaeth archaeolegol a'r cyfeiriadau yn y testun De Situ Albanie, y "Cronicl Pictaidd" Duan Albanach, a chwedlau Gwyddeleg. Dyma nhw:

Llyfryddiaeth ddethol[golygu]

  • A. Small, The Picts (Dundee, 1987)
  • Elizbaeth Sutherland, In Search of the Picts (Llundain, 1994)
  • F.T. Wainwright (gol.), The Problem of the Picts (1956)