Moryd Forth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Fferi Ro-Pax Blue Star 1 yn mynd tan y bont ar y ffordd o Rosyth i Zeebrugge.
Map o'r Firth of Forth

Moryd neu aber agored Afon Forth ar arfordir dwyreiniol yr Alban yw Moryd Forth (Gaeleg, Linne Foirthe; Sgoteg Firth o Forth, Saesneg Firth of Forth). Saif Fife ar yr ochr ogleddol a Gorllewin Lothian, dinas Caeredin a Dwyrain Lothian ar yr ochr ddeheuol. Mae'r llanw yn cyrraedd cyn belled a Stirling, ond fel rheol ystyrir fod y firth yn gorffen gwer Pont Kincardine.

Ceir nifer o drefi ar hyd lannau'r foryd, gyda diwydiannau pwysig, yn cynnwys Grangemouth, Leith, Methil, Inverkeithing, Prestonpans a Rosyth. Croesir y foryd gan bont i'r rheilffordd a phont enwof i'r briffordd, a disgwylir i bont ychwanegol agor yn 2008. Ceir nifer o ynysoedd yn y foryd; yr enwocaf yw Bass Rock.