Sgwrs:Moryd Forth

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Firth[golygu cod]

Da gweld yr erthygl hon ar ddaearyddiaeth yr Alban, ond ga'i ofyn os oes gan bobl barn am y ffurf gywir am "Firth of..." (Forth, Solway, Clyde, a.y.y.b.) yn Gymraeg? Ar ôl chwilio "Forth" yma ar y wicipedia dwi'n gweld bod gennym ni dair ffurf, sef "Firth of Forth", "Firth o Forth" (sy'n digwydd bod y ffurf Sgoteg hefyd!) a "Moryd Forth". "Moryd" sy gan Yr Atlas Cymraeg am "Firth" a dyna, dw'n meddwl, ydy'r term cywiraf ond nid, mae'n ymddangos, y fwyaf cyffredin (yma o leiaf). Gan fod sawl firth arall yn yr Alban efallai ei bod yn syniad da i ni geisio sefydlu ein "dewis ffurf" rwan, i arbed newid pethau yn y dyfodol? Anatiomaros 21:33, 2 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]