Zeebrugge
Oddi ar Wicipedia
Pentref a harbwr sydd bellach yn un o faesdrefi Brugge yng ngorllewin Fflandrys, yng ngogledd-orllewin Gwlad Belg yw Zeebrugge. Saif yn nhalaith Gorllewin Fflandrys ac arondissement Brugge. Roedd y boblogaeth yn 2008 yn 3,865.
Harbwr Zeebrugge yw'r ail-fwyaf yng Ngwlad Belg, ar ôl Antwerp. Yn 1987, bu yn y newyddion pan suddodd y fferi Herald of Free Enterprise yn syth ar ôl gadael yr harbwr.