Coraniaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cenedl estron o bobl bychain, tebyg i gorachod, o darddiad anhysbys, sy'n aflonyddu Ynys Prydain yn y chwedl Cyfranc Lludd a Llefelys yw'r Coraniaid. Gyda'r dreigiau y diffrwythloni'r wlad gan eu gwaedd a'r Cawr Lledrithiol, mae'r Coraniaid yn un o'r Tair Gormes ar Ynys Prydain yn y chwedl honno.

Yn Cyfranc Lludd a Llefelys, cenedl o fodau bychain aflonyddus ydyn nhw, sy'n defnyddio hud a lledrith i ddifwyno teyrnas Lludd fab Beli. Y mae pob gair a yngenir yn dod i'w clustiau ac felly nid oes modd cynllwynio i gael gwared arnynt. Bodau arallfydol sy'n perthyn i'r Tylwyth Teg ydynt yn hytrach na chorachod go iawn. Ni cheir disgrifiadau ohonynt. Ar ôl cael cyngor ei frawd doeth Llefelys, brenin Ffrainc, llwydda Lludd i'w trechu trwy arllwys cymysgedd sy'n cynnwys pryfed briwedig arnynt.[1]

Cyfeirir at y Coraniaid yn un o Drioedd Ynys Prydain hefyd:

Tair gormes a ddaeth i'r Ynys hon, ac nid aeth yr un drachefn ["yn ei hôl"].
Un ohonynt ciwdod ["llu"] y Coraniaid, a ddaethant yma yn oes Caswallon fab Beli, ac nid aeth yr un ohonynt drachefn. Ac o Asia yr oeddynt yn hanu.
Ail, Gormes y Gwyddyl Ffichti. Ac nid aeth yr un ohonynt drachefn.
Trydydd, Gormes y Saeson, a Hors a Hengist yn benaduriaid arnynt.[2]

Prin yw'r cyfeiriadau eraill at y Coraniaid, ond ceir y cyfeiriad hwn atynt mewn cywydd gan Lewys Môn:

Nâd i'th gorn, adwyth a gaid,
acw'r un o'r Coraniaid:
lladd wenwyn fal Lludd unwaith,
y dŵr-swyn wyd dros ein iaith.[3]

Tynnodd Syr Ifor Williams sylw at y tebygrwydd rhwng enw'r bobl hyn a'r enw Llydaweg Korriganed (Tylwyth Teg Llydaw). Amlwg hefyd yw'r cysylltiad â'r gair Cymraeg 'cor' (corrach). Ar sail hynny, mae Rachel Bromwich yn tynnu sylw at y chwedlau am y Tuatha Dé Danann (Tylwyth Teg Iwerddon) sy'n ymosod ar Iwerddon.[4] Ond un o bump llwyth a oresgynnodd y wlad yn eu tro yw'r Tuatha, tra bod "Tair Gormes" ar Ynys Brydain.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Brynley F. Roberts (gol.), Cyfranc Lludd a Llefelys (1976); Ifor Williams (gol.), Cyfranc Lludd a Llevelys (Jarvis a Foster, Bangor, 1910, ail argraffiad 1922).
  2. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd 1961; arg. newydd 1991). Triawd 36.
  3. Eurys I. Rowland (gol.), Gwaith Lewys Môn (Caerdydd, 1975), cerdd LXXI.
  4. Rachel Bromwich, 'Dwy Chwedl a Thair Rhamant', yn Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesoedd Canol, gol. Geraint Bowen (Caerdydd, 1974).