Dihareb

Oddi ar Wicipedia
Dihareb
Rhan o Lyfr Coch Hergest sy'n rhestru diarhebion Cymraeg yn y 14g, e.e. "Clywir corn cyn ei weled"
Enghraifft o'r canlynoldosbarth llenyddol Edit this on Wikidata
Mathparoimia, ymadrodd Edit this on Wikidata
Rhan ogenres bychain o fewn llên gwerin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dywediad byr, poblogaidd yw dihareb, sy'n mynegi gwiredd yn seiliedig ar brofiad o fywyd cyffredin. Nid yw dihareb yn ddyfyniad o eiriau un person, yn hytrach, mae'n tarddio o draddodiad llafar fel rheol, ac yn crynhoi doethineb canrifoedd. Mae gan bob iaith a diwylliant ei diarebion unigryw ei hun er y ceir rhai diarebion sy'n "rhyngwladol" ac a geir mewn sawl iaith a diwylliant. Mae'r wireb yn perthyn yn agos i'r ddihareb ond er bod diarebion yn cynnwys elfen wirebol yn aml nid yw pob gwireb yn ddihareb.

Yn aml, mae dihareb yn cynnwys trosiad, er enghraifft, "Nid aur yw popeth melyn" a "Gorau cannwyll pwyll i ddyn". Ond ceir diarebion heb drosiadau hefyd, e.e. "Trech Duw na phob darogan".

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • T. O. Jones, gol. J. Hughes, Diarebion y Cymry (Conwy, 1891)
  • O. M. Edwards, Diarhebion Cymru (Wrecsam, 1897)
  • Evan Jones, Doethineb Llafar (Abertawe, 1925)
  • William Hay, Diarhebion Cymru (Lerpwl, 1925)
  • J. J. Evans, Diarhebion Cymraeg / Welsh Proverbs (Gwasg Gomer, 1965)
  • Mary Williams, Dawn Ymadrodd (Gwasg Gomer, 1978; 2/2016)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am dihareb
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.