Llyfr Coch Hergest
Llawysgrif hynafol yn yr iaith Gymraeg, a ysgrifennwyd tua 1382-1410, yw Llyfr Coch Hergest. Mae’n un o brif ffynonellau ar gyfer chwedlau'r Mabinogi a cheir ynddi ogystal sawl testun rhyddiaith Cymraeg Canol arall ac adran bwysig o gerddi.
Roedd ym meddiant y brudiwr a noddwr Hopcyn ap Tomas o Ynysforgan ac Ynysdawe ar ddechrau'r 15fed ganrif. Ychwanegwyd haen o gerddi tua'r flwyddyn 1400, yn cynnwys awdlau moliant i Hopcyn gan feirdd fel Dafydd y Coed.
Daw’r enw am ei bod wedi ei rwymo mewn lledr coch, a’i gysylltiad gyda Phlas Hergest yn Swydd Henffordd. Ymddengys iddo ddod i feddiant John Vaughan o Dretŵr yn 1465 ac iddo fynd oddi yno i Hergest. Bu ym meddiant y teulu hyd ddechrau'r 17eg ganrif a dyna pam y cafodd yr enw. Fe roddwyd y llyfr gan y Parch. Thomas Wilkins i Goleg Yr Iesu, Rhydychen yn 1701, ac mae ar gadw yn Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen.
Cynnwys [golygu]
- Ystorya Dared
- Historia Regum Brittaniae (Brut Sieffre o Fynwy)
- Brut y Tywysogion
- Ystorya de Carolo Magno a chwedlau eraill am Siarlymaen
- Delw y Byd
- Chwedlau Saith Ddoethion Rhufain
- Breuddwyd Rhonabwy
- Detholiad o Drioedd
- Pedair Cainc y Mabinogi
- Ystorya Bown o Hamtwn
- Testunau Meddygon Myddfai
- Amlyn ac Amig
- Testun o un o ramadegau'r beirdd
- Casgliad o ddiharebion Cymraeg
- Testunau gwaith rhai o Feirdd y Tywysogion
- Testunau cerddi eraill, gan rai o feirdd y 14eg ganrif
Ffynonellau [golygu]
- 'Llyfr Coch Hergest'. Yn Meic Stephens (gol.) (1998), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.