Amlyn ac Amig (llawysgrif)
Tudalen gyntaf Amlyn ac Amig: Yn yr amser yr oedd pepyn hen yn fren-hin yng ngwlat ffringa y ganet mab y farchog arderchog bon+hedig o'r Almaen..." | |
Enghraifft o'r canlynol | llawysgrif |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1390s |
Lleoliad | Coleg yr Iesu |
Chwedl Gymraeg ganoloesol sy'n perthyn i nifer o gerddi Ewropeaidd tebyg, o'r un cyfnod yw Amlyn ac Amig. Mae'r storiau hyn, yn eu tro, yn seiliedig ar stori Geltaidd llawer hŷn.
Roedd stori o'r enw'n boblogaidd iawn drwy Ewrop yn yr Oesoedd Canol. Ceir fersiwn Gymreig ohoni yn Llyfr Coch Hergest, o'r 14g.[1]
Y testun a'i ddyddiad[golygu | golygu cod]
Cedwir yr unig gopi canoloesol o Amlyn ac Amig yn Llyfr Coch Hergest (Coleg yr Iesu, Rhydychen MS 111; c. 1375-1425).[2]
Crynodeb[golygu | golygu cod]
Mae'r stori'n ymwneud â dau fachgen a anwyd ar yr un diwrnod ac sydd mor debyg, yn gorfforol, nes ei bod yn anodd iawn gwahaniaethu rhyngddyn nhw. Yn y fersiwn Gymraeg, mae'r dau gyfaill yn cael eu lladd mewn brwydr. Oherwydd eu bod mor driw i'w gilydd maen nhw'n gwneud camgymeriadau enbyd: twyllo eu pennaeth ac mewn ysgarmes, lladd cyfaill ac aberthu fau fachgen ifanc. Mae'r fersiwn gyntaf o'r stori yn y Lladin ac yn dyddio i 1090.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
Y golygiad safonol o'r testun yw:
- Melville Richards (gol.), Breudwyt Ronabwy (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1948). Adargraffiad 2012: ISBN 9780708326183
Ceir ymdriniaeth gan Dafydd Glyn Jones yn,
- Geraint Bowen (gol.), Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (Gwasg Gomer, 1974)
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
- Amlyn ac Amig (drama) - drama gan Saunders Lewis a seiliwyd ar y fersiwn Cymraeg o stori Amlyn ac Amig.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Celtic Culture: A-Celti. ABC-CLIO. 2006. t. 525. ISBN 978-1-85109-440-0.
- ↑ "File G6900. - Llungopi o ddalen o Lyfr Coch Hergest (Jesus College MS CXI, Llyfrgell Bodley, Rhydychen) colofnau 1115-16". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2021.