Peniarth 20

Oddi ar Wicipedia
Peniarth 20
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif, llenyddiaeth Cymru, gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
MathBrut y Tywysogion Edit this on Wikidata
Deunyddmemrwn, inc Edit this on Wikidata
Rhan oLlawysgrifau Peniarth Edit this on Wikidata
IaithCymraeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLlyfr Du Basing Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydluc. 1330 Edit this on Wikidata
Genreprose poetry, ffeithiol Edit this on Wikidata
LleoliadLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Prif bwnchanes Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llawysgrif Gymraeg gynnar yw Peniarth 20, sy'n perthyn i'r casgliad a elwir yn Llawysgrifau Peniarth. Cynigiodd J. Gwenogvryn Evans ddyddiad o tua'r 15g iddi ond bellach mae Daniel Huws, y prif arbenigwr ar lawysgrifau Cymreig cynnar, wedi dadlau o blaid dyddiad tuag 1330 i brif haen y llawysgrif. Mae'n llawysgrif femrwn.

Mae Peniarth 20 yn llawysgrif bwysig sy'n cynnwys y copi cynharaf a feddwn o destun Brut y Tywysogion a chopi cynnar o un o'r testunau a elwir yn Ramadegau'r Penceirddiaid, sy'n fath o lawlyfr i feirdd proffesiynol. Credir mai golygiad gan Dafydd Ddu o Hiraddug o destun gan Einion Offeiriad ydyw.

Mae'n cynnwys yn ogystal testunau o waith rhai o'r Gogynfeirdd, yn cynnwys Iorwerth Fychan.

Dengys astudiaeth o nodweddion llawysgrifol a thestunol fod Peniarth 20 yn perthyn yn agos i lawysgrif gynnar arall, sef Llyfr Du Basing. Credir iddi gael ei llunio naill ai yn Abaty Dinas Basing neu, yn fwy tebygol, yn scriptorium Abaty Aberconwy. Mae'r hynafiaethydd Robert Vaughan (c.1592-1667) o'r Hengwrt (ger Dolgellau), casglwr gwreiddiol Llawysgrifau Peniarth, yn cyfeirio at un ohonynt fel 'Llyfr Conwy', a chredir gan rai mai Peniarth 20 yw'r llawysgrif honno. Yn sicr ddigon gellir dweud ei bod yn llawysgrif a ysgrifennwyd yng ngogledd Cymru.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Daniel Huws, Llyfrau Cymraeg 1250-1400 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1992)
  • Christine James yn, Rhian M. Andrews et al (gol.), Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 1996). Tud. 310-11.
  • Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogion, Peniarth MS. 20 (Caerdydd, 1941).