Ystorya de Carolo Magno

Oddi ar Wicipedia
Ystorya de Carolo Magno
Rhan o lawysgrif allan o Lyfr Coch Hergest: Ystoria Carolo Magno: Chronicl Turpin
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol, gwaith ysgrifenedig, llawysgrif Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata

Cadwyn o chwedlau Cymraeg Canol am Siarlymaen (Carolus Magnus neu Charlemagne, 747-814), brenin y Ffranciaid, a'i farchogion yw Ystorya de Carolo Magno ('Hanes Siarlymaen'). Cerddi hir Ffrangeg a gyfansoddwyd yn y 12g oedd y testunau gwreiddiol ond fe'u troswyd mewn rhyddiaith Cymraeg Canol gan gyfarwyddiaid anhysbys (ond gweler isod yn achos Cronicl Turpin) o tua dechrau'r 13g ymlaen. Cedwir y testunau gorau fel casgliad neilltuol dan y teitl Ystorya de Carolo Magno yn Llyfr Coch Hergest (tua 1382-1410).

Mae cefndir y chwedlau yn grefyddol, gan ymdroi o amgylch y rhyfeloedd rhwng Siarlymaen a'i gynghreiriaid a'r Mwriaid Islamaidd yn Sbaen a'i gynghreiriaid hwythau (yn cynnwys y Basgiaid Cristnogol).

Y testunau yw:

Cyfieithwyd neu droswyd y cerddi Ffrangeg i sawl iaith Ewropeaidd, ond mae'r addasiadau Cymraeg yn sefyll allan am eu bod yn rhyddiaith yn hytrach na cherddi. Yn ôl Stephen J. Williams, "Haedda camp cyfieithwyr y chwedlau am Siarlymaen ei chanmol yn fawr. Ceir ynddynt enghreifftiau o ryddiaith Gymraeg y cyfnod canol ar ei disgleiriaf a'i noblaf".[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Stephen J. Williams, 'Rhai Cyfieithiadau', yn Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (Gwasg Gomer, 1974), tud. 307.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Stephen J. Williams (gol.), Ystorya de Carolo Magno (Gwasg Prifysgol Cymru, 1930; argraffiad newydd 1968).