Mabinogi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mytholeg Geltaidd
Coventina
Amldduwiaeth Geltaidd

Duwiau a duwiesau Celtaidd

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Casgliad o bedair chwedl yn seiliedig ar y traddodiad llafar Cymreig yw'r Mabinogi. Eu henw traddodiadol yw Pedair Cainc y Mabinogi (mae cainc yn golygu "cangen", sef "chwedl o fewn chwedl").

Oherwydd i'r Arglwyddes Charlotte Guest gamddeall y gair Cymraeg Canol mabynogion (sy'n digwydd unwaith yn unig, mewn testun o chwedl Pwyll mewn dwy o'r llawysgrifau), fe ddefnyddir y gair 'Mabinogion' ers iddi hi gyhoeddi ei chyfieithiad Saesneg dylanwadol o'r Pedair Cainc ac wyth chwedl arall i gyfeirio at y chwedlau mytholegol Cymreig yn eu crynswth. Mae rhai o'r chwedlau hynny'n chwedlau llafar sy'n cynnwys elfennau hanesyddol o'r Oesoedd Canol yng Nghymru, ond ceir ynddynt hefyd elfennau cynharach o lawer sy'n deillio yn y pen draw o fyd y Celtiaid a'u mytholeg.

Cedwir testunau pwysicaf y chwedlau mewn dwy lawysgrif ganoloesol arbennig, sef Llyfr Gwyn Rhydderch a ysgrifenwyd rywbryd oddeutu 1350, a Llyfr Coch Hergest a ysgrifenwyd rywbryd rhwng tua 1382 a 1410.

Y Pedair Cainc[golygu]

Casgliad o bedair chwedl sy'n perthyn i'r un cylch yw Pedair Cainc y Mabinogi. Y pedair chwedl yw:

Cawsant eu llunio gan lenor dawnus, tua chanol yr 11eg ganrif efallai. Y llinyn sy'n eu cydio wrth ei gilydd, er yn denau braidd mewn mannau, yw hanes Pryderi, mab Pwyll Pendefig Dyfed a Rhiannon.

Y Chwedlau Brodorol[golygu]

Cyfieithodd a chyhoeddodd yr Aglwyddes Guest saith chwedl arall yn ei chasglaid. Mae pedair ohonynt yn chwedlau sy'n cynnwys deunydd o chwedloniaeth a thraddodiadau Cymreig, ac am y rheswm hynny yn cael eu galw Y Chwedlau Brodorol gan ysgolheigion. Eu teitlau yw:

Gan fod draddodiadau cynnar am y brenin Arthur i'w cael yn Culhwch ac Olwen a Breuddwyd Rhonabwy, mae'r storïau hyn o ddiddordeb arbennig i ysgolheigion Arthuraidd. Culhwch ac Olwen yw'r chwedl Cymraeg Canol gynharaf ar glawr tra bod Breuddwyd Rhonabwy yn chwedl fwrlesg o ddiwedd yr Oesoedd Canol sy'n fath o barodi o'r chwedlau cynharach.

Mae Breuddwyd Macsen Wledig yn adrodd hanes yr Ymerawdwr Rhufeinig Magnus Maximus ac yn ei gysylltu â Segontiwm, y gaer Rufeinig ger Caernarfon. Mae dylanwad Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy i'w gweld yn amlwg yn Cyfranc Lludd a Llefelys.

Y Tair Rhamant[golygu]

Prif erthygl: Y Tair Rhamant.

Mae'r tair stori a adnabyddir wrth yr enw Y Tair Rhamant yn chwedlau Arthuraidd sydd i'w cael yn rhannol yng ngwaith yr awdwr Ffrangeg Chrétien de Troyes yn ogystal. Erbyn hyn cred ysgolheigion fod y ddau gylch o chwedlau yn annibynnol ar ei gilydd ond bod elfennau ynddynt yn seiliedig ar waith hŷn. Y Tair Rhamant yw:

Mae'r Tair Rhamant yn perthyn i fyd sifalri a'i defodau ac mae lleoliad yr anturiaethau niferus yn amwys fel rheol, mewn cyferbyniaeth â daearyddiaeth y Pedair Cainc.

Hanes Taliesin[golygu]

Prif erthygl: Hanes Taliesin.
Gwion Bach yn gofalu am bair Ceridwen

Yn ogystal â'r chwedlau hyn mae'r Arglwyddes Guest yn cynnwys wythfed chwedl sydd ddim yn y Llyfr Gwyn na'r Llyfr Coch (nid yw'n arfer ei chynnwys mewn argraffiadau diweddarach chwaith). Hanes geni a mabolaeth y Taliesin chwedlonol yw'r chwedl, a adnabyddir fel,

Ceir nifer o gerddi sy'n cysylltiedig â'r chwedl, gyda rhai ohonynt i'w cael yn y testun ei hun.

Ffilm[golygu]

Gwnaed y ffilm animeiddiedig Y Mabinogi(90 munud; cyfarwyddwr: Derec Hayes) ym 2002.

Gweler hefyd[golygu]