Rhiannon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Rhiannon ferch Hyfeydd Hen yn gymeriad sy'n ymddangos yn y gyntaf a'r drydedd o Bedair Cainc y Mabinogi.

Rhiannon yn marchogaeth (engrafiad yng nghyfieithiad Charlotte Guest o'r Mabinogion (ail argraffiad, 1877)

Yn y gainc gyntaf, Pwyll Pendefig Dyfed mae Pwyll yn gweld merch hardd mewn gwisg aur yn marchogaeth ar geffyl gwyn. Mae'n gyrru ei wŷr ar ei hôl, ond methant â'i dal. Ar ôl tri diwrnod o hyn mae Pwyll ei hun yn ei hymlid, ond ym methu ei dal nes iddo siarad a hi a gofyn iddi aros. Mae hithau'n aros a siarad ag ef. Dywed ei bod wedi addo priodi Gwawl fab Clud, ond byddai'n well ganddi briodi Pwyll. Gwnant gytundeb â'i gilydd, ac ymhen blwyddyn mae Pwyll cael y gorau ar Gwawl trwy dwyll. Mae'n ei berswadio i fynd i mewn i gôd, ac yna mae'n gwrthod ei ryddhau nes iddi ildio Rhiannon i Bwyll.

Prioda Pwyll a Rhiannon, a genir mab iddynt. Y noson ar ôl ei eni mae'r baban yn diflannu, a chyhuddir Rhiannon o'i ladd. Er iddi wadu hyn mae'r llys yn pwyso ar Pwyll i'w hysgar. Gwrthyd Pwyll wneud hyn, ond mae Rhiannon yn gorfod gwneud penyd. Bedair blynedd yn ddiweddarach mae Teyrnon Twrf Liant, brenin Gwent Is Coed, yn dod a'r mab i lys Pwyll. Yr oedd y bachgen wedi ei gymeryd trwy hud i lys Teyrnon, lle magwyd ef dan yr enw "Gwri Wallt Eurin". Caiff yr enw Pryderi o eiriau Rhiannon pan glyw fod ei mab yn fyw: "Oedd esgor fy mhryder im, pe gwir hynny". Yn ddiweddarach mae Pwyll yn marw a Phryderi yn ei ddilyn ar orsedd Dyfed.

Yn y drydedd gainc, chwedl Manawydan fab Llŷr mae Manawydan, brawd Branwen a Brân Fendigaid, yn un o'r saith gŵr sy'n dychwelyd yn fyw o Iwerddon wedi'r rhyfel yno. Gan fod ei gefnder, Caswallon, wedi cymeryd coron Prydain, mae Manawydan yn derbyn gwahoddiad gan Pryderi i ddod gydag ef i Ddyfed a phriodi ei fam, Rhiannon. Cyn hir mae hud yn disgyn ar Ddyfed ac mae ei phoblogaeth yn diflannu, heblaw am Manawydan, Rhiannon, Pryderi a Cigfa, gwraig Pryderi.

Gorfodir hwy i symud i Loegr, lle mae Manawydan a Phryderi yn ennill bywoliaeth fel crefftwyr. Maent yn ymgymeryd a nifer o grefftau, ond mae eu gwaith mor dda nes bod y crefftwyr lleol yn elyniaethus ac yn eu gorfodi i symud o fan i fan. Maent yn dychwelyd i Ddyfed, lle mae Pryderi yn cael ei gaethiwio mewn caer hud, ac yna mae Rhiannon hithau yn cael ei charcharu wrth geisio ei achub, gan adael dim ond Manawydan a Chigfa ar ôl. Ymhen dwy flynedd mae Manawydan yn dal un o'r llygod sydd wedi bod yn bwyta ei ŷd, ac yn mynd ati i'w chrogi. Daw ysgolhaig, offeiriad ac yna esgob heibio i geisio perswadio Manawydan i beidio crogi'r llygoden. Datgelir mai gwraig feichiog Llwyd fab Cil Coed yn rhith llygoden ydyw, ac mai Llwyd a osododd yr hud ar Ddyfed fel dial am y modd y cafodd ei gyfaill Gwawl fab Clud ei gamdrin gan Pwyll yn y gainc gyntaf. Rhyddheir ei wraig ar yr amod ei fod yn rhyddhau Pryderi a Rhiannon a chodi'r hud.

Credir fod Rhiannon yn wreiddiol yn dduwies y ceffylau, yn cyfateb i'r dduwies Geltaidd Epona. Ymddengys fod yr enw yn dod o'r Proto-Celtig *Rīganto-n-ā, sef Rigantona, yn golygu "(Y) Frenhines Fawr" (cynharer "rhi", yr hen air am frenin yn Gymraeg).

Llyfryddiaeth[golygu]

Y testun[golygu]

  • Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad newydd ers hynny)